Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rydym angen eich help!
Published: 12/02/2021
Mae bob cyngor yng Ngogledd Cymru yn cydweithio gyda landlordiaid tai cymdeithasol (y Cyngor neu Gymdeithas Tai) i ddeall pa gymorth mae tenantiaid ei angen i symud ty, yn awr ac yn y dyfodol. Gwneir yr ymchwil hwn gan Tyfu Tai Cymru (rhan o’r Sefydliad Tai Siartredig).
Mae’n bwysig y gall pawb gael cymorth sy’n addas iddyn nhw. I rai gallai hyn olygu symud i gartref mwy gyda mwy o ystafelloedd gwely, neu gartref sydd wedi ei addasu i helpu rhywun i fyw’n annibynnol, neu symud o gartref sy’n gostus i’w redeg a’i gynnal.
Mae Tyfu Tai Cymru wedi creu arolwg i gael gwell dealltwriaeth o ba rwystrau y gallai rhai pobl eu hwynebu wrth symud ac i gael synnwyr o sut y gellir darparu mwy o gymorth os a phryd mae pobl yn dewis symud.
Nid oes rhaid i chi fod yn ystyried symud ar hyn o bryd i gymryd rhan yn yr arolwg, bydd y wybodaeth a roddwch yn ein helpu i gynllunio’r pethau rydym angen eu gwneud i helpu pobl yn awr ac yn y dyfodol.
Bydd yr arolwg yn cymryd 10-15 munud i'w gwblhau a byddwch yn cael cyfle i ennill gwobr.
Cliciwch yma i lenwi’r arolwg cyn y dyddiad cau o 12 Mawrth 2021.