Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Erlyn Landlordiaid Sir y Fflint gyda Tai Amlfeddiannaeth
Published: 23/02/2021
Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi erlyn landlord sector preifat o Sir y Fflint am sawl trosedd dan ddeddfwriaeth tai sydd wedi'i llunio i warchod tenantiaid yn y sector rhentu preifat.
Roedd Swyddogion Iechyd Yr Amgylchedd wedi rhoi Hysbysiad Gwella ym mis Mawrth 2019 yn dilyn archwiliad ar Dy amlfeddiannaeth, 64 Park Avenue yn Saltney. Roedd yr hysbysiad hwn yn gofyn am waith i fynd i’r afael â pheryglon tân, oerfel, carbon monocsid a thrydanol difrifol yn yr eiddo. Ymysg diffygion eraill, nid oedd larymau mwg yn gweithio yno, dim drysau tân, gwifrau byw yn y golwg a dim system wresogi yn gweithio yn yr eiddo.
Roedd y landlord yn hawlio wrth sawl asiantaeth nad oedd yr eiddo’n cael ei rentu mwyach, ond, pan gynhaliwyd ymchwiliad ym mis Tachwedd 2019 gwelwyd fod yr eiddo yn dal i gartrefu’r un tenantiaid ac nad oedd yr Hysbysiad Gwella wedi ei gwblhau.
Yn ddiweddar, yn Llys Ynadon Wrecsam, plediodd y landlord Abdul Khalique o Vyrnwy Road yn Saltney yn euog i ddwy drosedd. Roedd y troseddau hyn yn golygu ei fod wedi methu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwella a methu â chofrestru eiddo ar rent.
I liniaru’r ble, clywyd fod Abdul Khalique bellach wedi cwblhau’r gwaith yn yr eiddo, ac wedi cofrestru’r eiddo ar rent a phenodi asiant trwyddedig Rhentu Doeth Cymru i reoli’r eiddo. Cafodd ddirwy o £133 oherwydd ei ble euog a gorchymyn i dalu costau o £240.
Cafwyd ei gydlandlord, Abdul Kolim yn euog yn ei absenoldeb o bum trosedd. Roedd y troseddau hyn yn cynnwys methu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwella, methu â chofrestru eiddo ar rent, peidio â chael trwydded i reoli eiddo ar rent, methu â chynnal larymau mwg a methu darparu manylion rheolwr. Cafodd ddirwy o £1280 a gorchymyn i dalu costau erlyn o £600 a gordal o £174.
Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
“Mae’r erlyniad yma yn anfon neges glir ynglyn â pha mor ddifrifol y mae Cyngor Sir Y Fflint yn ystyried cyflwr a rheoli eiddo yn y sector rhentu preifat. Gall mwyafrif landlordiaid Sir y Fflint fod yn falch o ansawdd y llety maen nhw’n gynnig i’w tenantiaid. Ond, i’r rhai nad ydynt yn bodloni’r safonau angenrheidiol, bydd y Cyngor hwn yn defnyddio pob mesur sydd ar gael i sicrhau fod tenantiaid yn cael cartref saff, cynnes a diogel i fyw ynddo.”