Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gweminarau am ddim yn cynnig awgrymiadau marchnata i fusnesau Sir y Fflint
Published: 07/04/2021
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â chwmni lleol, Outwrite PR i helpu busnesau lleol i baratoi i ailagor wrth i ni ddod allan o’r cyfnod clo yn araf bach.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i ni gyd, ond neb yn fwy na busnesau canol y dref, cynhyrchwyr bwyd a diod lleol a’r sectorau lletygarwch a thwristiaeth.
Er mwyn helpu busnesau i fynd nôl ar y trywydd iawn, rydym ni’n cynnal dau weminar am ddim ac yn gwahodd busnesau lleol i gofrestru ac ymuno. Bydd y ddau weminar yn para 30 munud ac fe ddylent fod yn ychwanegiad defnyddiol i gynlluniau perchnogion busnes lleol sydd eisoes ar waith.
Mae’r dyddiadau ac amseroedd i’w gweld isod a byddant yn cael eu cynnal trwy gyfrwng Zoom:
• Dydd Mawrth 4 Mai 10am
• Dydd Mawrth 11 Mai 10am
Bydd Laurence Edwards o Black Mountain Honey yn ymddangos yn y cyntaf a bydd yn canolbwyntio ar sut i greu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol (y tu hwnt i wthio negeseuon gwerthiannau a chynigion neu ostyngiadau’n unig). Bydd hyn yn eich helpu i feithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth gyda’ch cynulleidfa/cynulleidfaoedd allweddol a chwsmeriaid.
Dywedodd Laurence:
“Rydym ni’n credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn declyn pwerus i ffurfio cysylltiadau hirdymor gyda busnesau lleol. Rydym ni’n mwynhau hyrwyddo cynhyrchwyr bwyd lleol drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol gan bod hyn yn cryfhau safle Sir y Fflint fel cyrchfan i bobl sy’n caru bwyd ac yn helpu i dywys defnyddwyr tuag at gynnyrch leol.”
Bydd yr ail weminar yn cael ei gynnal wythnos yn ddiweddarach a bydd yn canolbwyntio ar yr ôl troed digidol a sut i adeiladu cynnwys sy’n ymgysylltu ar gyfer canlyniadau cost-effeithiol. Bydd y gweminar yma’n eich helpu i sicrhau bod delwedd y brand o safon uchel yn gyson ar draws pob ffurf o farchnata. Fe fydd Stephen Thorp perchennog busnes lleol, A Pesto yno i siarad am ei brofiad ac i dynnu sylw at beth weithiodd yn dda i’w fusnes o.
Dywedodd Stephen:
“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at rannu ein profiad a’n gwybodaeth yn y gweminar yma. Rydym wrth ein boddau’n ymgysylltu gyda chwsmeriaid, yn ogystal â busnesau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol ac rydym yn credu ei bod yn bwysig i helpu i’w grymuso wrth i ni ddod allan o’r cyfnod clo.”
I gofrestru, ewch i Eventbrite. Fe ofynnir i chi nodi eich dewis iaith a byddwch yn derbyn gwahoddiad a dolen i ymuno â’r gweminar. Os na allwch chi fynychu ar y dyddiadau uchod ond eich bod dal eisiau gwylio’r gweminarau, byddant ar gael i’w gwylio ar ôl y digwyddiad (rhagor o fanylion i ddilyn).
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch anthony@outwrite.co.uk neu sharon.barlow@flintshire.gov.uk. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!