Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adfywio Canol Trefi
Published: 14/04/2021
Gofynnir i Gabinet Sir y Fflint nodi rôl newydd ar gyfer y Cyngor wrth adfywio canol trefi drwy ymyraethau’n seiliedig ar eiddo pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 20 Ebrill.
Mae canol trefi yn wynebu heriau economaidd sy’n gwaethygu ac mae’r patrymau presennol o berchenogaeth eiddo yn llesteirio ar ymdrechion i’w helpu nhw i addasu. Mae’r Cyngor yn llunio rhaglen uchelgeisiol o ymyraethau i gefnogi ailddyfeisio ac adfywio canol ein trefi.
Mae yna nifer o heriau yn wynebu trefi bach yn y DU, yn cynnwys:
- Mae newid ymddygiad ymysg cwsmeriaid sydd wedi cyflymu yn ystod pandemig Covid, wedi arwain at ostyngiad dramatig mewn gwariant trwy siopau’r stryd fawr. Nid oes disgwyl y bydd hyn yn dychwelyd i lefelau cyn Covid, gan adael trefi gyda mwy o siopau nag y gallant eu cynnal.
- Mae canolfannau siopa llai yn cael trafferth aros yn hyfyw gydag anawsterau sylweddol yn denu tenantiaid.
- Mae yna nifer fechan o eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir mewn trefi sydd yn difetha effaith yr ardal.
Bwriad y rhaglen flaengar yma ydi edrych eto at ganol trefi a helpu i’w siapio at y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys:
- lleihau’r nifer o eiddo gwag hir dymor yng nghanol ein trefi;
- dod o hyd i ddefnyddiau mwy cynaliadwy ar gyfer unedau manwerthu a chynyddu mentrau cymunedol ar y stryd fawr;
- cynllunio i ailddefnyddio canolfannau siopa llai hyfyw;
- datblygu unedau cychwynnol ar gyfer mentrau manwerthu newydd yng nghanol ein trefi; a
- chydlynu a chefnogi pob ymyrraeth gydag ymagwedd gyson i sicrhau bod effeithiau adfywiol buddsoddiad ac adnoddau’n cael eu defnyddio i’w mantais fwyaf.