Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hysbysiad Gwella Covid
Published: 19/04/2021
Mae Swyddogion o Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno Hysbysiad Gwella i Clive Barber’s, 78 Chester Road West, Shotton ar ôl i’r busnes wrthod nifer o geisiadau i gydymffurfio â chanllawiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r hysbysiad gwella yn datgan bod rhaid i’r busnes:
- Sicrhau bod pellter o 2 fetr rhwng y barbwyr a bod pellter o 2 fetr hefyd rhwng unrhyw gwsmer sy’n aros am eu hapwyntiad.
- Sicrhau bod yr holl staff wrth weithio yn gwisgo gorchudd wyneb math II a fisorau neu sbectols diogelwch clir. Rhaid i holl gwsmeriaid hefyd wisgo gorchudd wyneb.
- Sicrhau bod staff yn cyflawni gwaith gwaredu gwallt y wyneb megis torri barf neu waredu gwallt y trwyn wrth wisgo Mwgwd Llawfeddygol Gwrth Hylif, amddiffyniad y llygaid (sbectol diogelwch neu fisor wyneb llawn) a menyg a ffedog untro.
- Cael mesurau mewn lle ar gyfer rheoli mynediad i’r eiddo a chyfyngu ar y nifer o gwsmeriaid sydd yn yr eiddo ar un tro.
- Arddangos arwyddion a chymorthyddion gweledol eraill i atgoffa cwsmeriaid i gadw pellter o 2 fetr rhwng ei gilydd ac i wisgo gorchudd wyneb.
Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd ac Economi Sir y Fflint:
“Er gwaethaf ymdrechion gan wasanaeth Safonau Masnach y Cyngor a swyddogion Tracio ac Olrhain, mae’r busnes wedi gwrthod cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer barbwyr a siopau trin gwallt. Trwy wrthod gwisgo’r dillad diogelwch gofynnol, maent yn rhoi eu hunain a’u cwsmeriaid mewn risg o ddal y clefyd a’i ledaenu ymhellach.
“Mae cyfraddau h,aint yn Sir y Fflint yn isel iawn ar hyn o bryd, ond os yw busnesau yn gwrthod dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru mae risg gwirioneddol o gynnydd mewn cyfraddau haint. Bydd Swyddogion yn cyflwyno Hysbysiadau Gwella ar y busnesau hynny sy’n gwrthod cydymffurfio ac, os fyddent yn parhau i wrthod dilyn y canllawiau, ni fydd gan y swyddogion unrhyw ddewis ond cyflwyno hysbysiad cau.”
Bydd swyddogion o Wasanaeth Diogelu Busnes a’r Gymuned y Cyngor yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth gyda’r rheoliadau cyfredol a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Os oes unrhyw fusnes yn ansicr o’r gofynion i gydymffurfio â’r rheoliadau a chanllawiau, mae cyngor ar gael gan Wasanaeth Diogelu Busnes a’r Gymuned Cyngor Sir y Fflint trwy ffonio 01352 703399 neu anfon e-bost at covidbusinesscompliance@flintshire.gov.uk.