Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ffioedd Maes Parcio
Published: 13/05/2021
Gofynnir i aelodau Cabinet Sir y Fflint adolygu’r sefyllfa bresennol o ran ffioedd meysydd parcio yn y Sir yn eu cyfarfod ddydd Mawrth 18 Mai.
Fe wnaeth y cyngor atal ffioedd meysydd parcio ar draws y sir o 25 Mawrth 2020 yn sgil Covid-19.
Gwnaed hyn er mwyn helpu busnesau canol y dref, ac nid oes bwriad newid hyn ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, ystyrir y maes parcio yn Nhalacre fel maes parcio ‘diwedd cyrchfan’ penodol ac ni ellir ei ystyried fel canol y dref.
Dywedodd Steve Jones, Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint:
“Er ein bod yn croesawu ymwelwyr i Dalacre, mae’r ddarpariaeth parcio yn brin ac mae parcio anystyriol yn cael effaith negyddol ar drigolion lleol. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, fe gyflwynwyd rheolaeth parcio effeithiol a daeth y pentref yn fwy hygyrch ac fe dawelodd rhwystredigaeth y trigolion lleol.
“Rwan bod ymwelwyr yn dychwelyd i Dalacre, ceisir cymeradwyaeth i ail-gyflwyno’r drefn ffioedd parcio fel y gellir rheoli’r trefniadau parcio yn llawn.”
Mae’r incwm sydd wedi’i greu trwy Dalu ac Arddangos wedi cyllido’r costau parhaus o ddarparu trefniadau parcio yn rhannol, ac mae’r swyddogion angen gorfodi’r cyfyngiadau.
Cynigir hefyd cyflwyno trefn codi tâl yn y maes parcio a theithio newydd sydd wedi’i adeiladu ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd hyn yn galluogi gweithwyr i deithio i’r safle gyda char cyn gwneud eu siwrnai ymlaen ar y gwasanaeth bws gwennol rheolaidd.
Bydd y datblygiad hwn, fel rhan o FETRO Gogledd Ddwyrain Cymru, yn darparu buddion trwy leihau’r defnydd o geir preifat, a diogelwch ar y priffyrdd, trwy leihau parcio ar y stryd yn yr ardal amgylchynol.
Cynigir i’r cyfleuster gael ei ddefnyddio fel maes parcio aml-ddefnydd gyda’r gallu i brynu trwydded flynyddol neu docyn dydd, gan roi cyfle i nifer yn yr ardaloedd amgylchynol gymryd mantais drwy ddefnyddio’r dyraniad talu ac arddangos ar gyfer ‘parcio a rhannu’ i gwblhau’r siwrnai ymlaen.