Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn codi baner y Lluoedd Arfog i gefnogi Wythnos y Lluoedd Arfog
Published: 23/06/2021
Bydd Diwrnod Milwyr wrth gefn yn cael ei nodi ar 23 Mehefin yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog (21 Mehefin – 26 Mehefin). Mae’r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae gweithwyr sy’n filwyr wrth gefn yn ei wneud i’r Lluoedd Arfog, i’n cymuned, ein sefydliad a’n cenedl. Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod Milwyr Wrth Gefn.
Mae milwyr wrth gefn yn rhoi o’u hamser i wasanaethu yn y Lluoedd Wrth Gefn, gan gydbwyso eu bywyd sifilaidd gyda gyrfa filwrol i sicrhau y byddent yn barod i wasanaethu fel rhan o’r lluoedd arfog pe bai eu hangen ar eu gwlad.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Joe Johnson;
“Mae ein gweithwyr sy’n filwyr wrth gefn yn chwarae rhan hanfodol yn ein Lluoedd Arfog ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i weithrediadau yn y DU a thramor. Mae ein milwyr wrth gefn i gyd yn gwneud swydd wych wrth wasanaethau'r genedl, ac mae'n fraint cael cyfle i ddathlu eu hymdrechion. Mae’r profiad, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae cyn-filwyr a milwyr wrth gefn wedi’u cael yn y fyddin ac yn ei roi i’r Cyngor yn amhrisiadwy.
"Dyfarnwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i’r Cyngor ym mis Tachwedd 2019. Mae’r wobr, yr uchaf yn y cynllun, yn cydnabod ymrwymiad a chefnogaeth barhaus y Cyngor ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog, sy’n cynnwys cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd i sicrhau nad ydynt yn derbyn anfantais annheg yn y gweithle.”
NODYN I'R GOLYGYDDION
Yn y llun uchod (chwith i'r dde):
Cyng. Mared Eastwood, Is-gadeirydd Cyngor Sir Sir y Fflint
Cyng. Hilary McGuill
Andy Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd ac Economi
Colin Everett, Prif Weithredwr
Gareth Owens, Prif Swyddog Llywodraethu
Cyng Ian Dunbar
Cyng Joe Johnson, Cadeirydd Cyngor Sir Sir y Fflint
Mrs. Sue Johnson