Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun tai Sir y Fflint yn cael ail rownd o gymeradwyaeth
Published: 25/02/2016
Mae cynlluniau Cyngor Sir y Fflint i adeiladu tai fforddiadwy newydd ledled y
Sir yn bwrw ymlaen â chaniatâd cynllunio a roddwyd bellach ar gyfer 92 o
gartrefi newydd yn The Walks yn y Fflint.
Maer gymeradwyaeth yn dilyn cyhoeddiad Rhagfyr y bydd 12 o gartrefi newydd yn
cael eu hadeiladu ar safle hen Ysgol Custom House yng Nghei Connah, gan
gyfrannu at darged y Cyngor i adeiladu tua 500 o gartrefi newydd yn y pum
mlynedd nesaf.
Gan ffurfio rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor, bydd y
datblygiadau newydd yn cael eu hadeiladu gan eu partner tai strategol, Wates
Living Space Homes. Bydd y gwaith o adeiladur cartrefi newydd yn dechrau’n
ddiweddarach eleni, a fydd yn cynnwys creu 62 o dai a 30 o randai ar safle hen
fflatiau deulawr The Walks.
Fel rhan or prosiect, mae Wates Living Space Homes a Chyngor Sir y Fflint wedi
gwneud ymrwymiad ar y cyd i greu cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a
chyflogaeth leol. Amcangyfrifir y bydd dros 2,000 o bobl yn cael eu cyflogi.
Mae hyn yn cynnwys nifer o gyfleoedd hyfforddi a phrentisiaeth i bobl leol drwy
gydol y rhaglen SHARP yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Bydd strategaeth buddsoddi cymunedol gynhwysfawr yn cael ei rhoi ar waith a
fydd yn gweld ysgolion lleol a grwpiau cymunedol yn elwa o Gronfa Cymunedau
SHARP sydd i fod i gael ei lansio ym mis Mai eleni.
Mae ymdrechion i ymgysylltu â chyflenwyr lleol yn y gwaith wedi cynnwys
digwyddiad Cwrdd âr Prynwr ar gyfer isgontractwyr lleol, gydag amcangyfrif y
bydd gwerth £40m o becynnau gwaith is-gontractio yn mynd i gwmnïau lleol.
Dywedodd y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai:
“Bydd ailddatblygu The Walks yn nodi dechrau cyfnod cyffrous iawn ir Cyngor,
mewn termau ymarferol, wrth wireddu ein huchelgais sefydledig i adfywio’r safle
yn dilyn dymchwel hen fflatiau deulawr y Cyngor. Bydd y cynllun newydd yn
darparu tai newydd, fforddiadwy, o ansawdd uchel sydd wir eu hangen yn y
Fflint.”
Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Prif Gynllun y Fflint:
“Ynghyd â fy nghyd gynghorwyr lleol, Alex Aldridge a David Cox, hoffwn ddiolch
i bawb a gymerodd ran am eu gweledigaeth, eu sgiliau, eu hymroddiad a’u
penderfyniad i yrrur cynllun yn ei flaen. Bydd y cynllun ar ôl ei gwblhau yn
sicr o roi bywyd newydd i’r Fflint.”
Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Living Space Homes:
“Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint ywr cyntaf oi math yng
Nghymru. Drwy arloesi cynlluniau buddsoddi tai uchelgeisiol or fath, maer
Cyngor yn darparu enghraifft flaenllaw o sut y gellir goresgyn prinder tai.