Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dewch i ddathlu yn Nyffryn Maes Glas
Published: 03/03/2016
Mae Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y
Fflint, wedi trefnu diwrnod glanhau ym mis Mawrth ar y safle sy’n adnodd
cymunedol gwerthfawr ar gyfer hamdden ac addysg.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, Mae
Dyffryn Maes Glas yn safle 70 erw syn cynnwys saith o Henebion Cofrestredig,
pump pwll, coetiroedd a mannau agored. Mae olion rheilffordd a gaeodd yn 1957
yn rhedeg i lawr y cwm 1.5 milltir. Mae gwely’r rheilffordd yn darparu llwybr
di-draffig i gerddwyr o Dreffynnon i Faes Glas. Ar ben isaf y dyffryn mae
amgueddfa Dyffryn Maes Glas.
Maer Cyngor ai bartneriaid yn annog pobl leol i helpu i lanhau a gwellar
ardal syn boblogaidd ymysg thwristiaid a phobl leol fel ei gilydd.
Meddai Gwladys Harrison sy’n gyfrifol am bortffolio’r Amgylchedd a Bywyd Gwyllt
ar gyfer Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas, Mae diwrnod glanhau wedi cael ei
drefnu ar gyfer 18 Mawrth. Bydd yn dechrau am 9am ac o 3:30 - 5:30pm, rydym
wedi trefnu gweithgareddau hwyliog, gan gynnwys cerddoriaeth, reidiau ar gefn
merlod, dawnswyr Morris a chastell neidio.
Mae Diwrnod Dyffryn Maes Glas yn syniad a ddaeth or digwyddiad blynyddol
Diwrnod Mawr y Dyfrdwy. Roeddwn am i’r gymuned leol ymfalchïo yn ein hardal a
glanhaur safle cyn agor y cyfleusterau newydd. I gyflawnir nod hon, mae Tesco
Treffynnon a chwmni paneli insiwleiddio Kingspan ym Maes Glas wedi bod yn hynod
gefnogol ac yn darparu cymorth i symud a gwaredu sbwriel a adewir yn ein hardal
hardd. Mae tipio anghyfreithlon yn broblem fawr.
Pwrpas y diwrnod glanhau yw paratoi ar gyfer ailagor y Dyffryn a’r Amgueddfa
sydd wedi cael eu gwella dros y gaeaf o ganlyniad i grant o £1 filiwn gan
Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a sicrhawyd gan Gyngor Sir y Fflint ac
Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas.
Maer Ymddiriedolaeth yn gwahodd y gymuned leol i ddod draw ar 18 Mawrth a
mwynhaur dathliadau a gweld y gwaith sydd wedii wneud i wella’r man prydferth
lleol hwn.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â threfnydd y digwyddiad, Gwladys Harrison ar
07706188523 neu G_HARRISON@sky.com.