Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cydgysylltu Llwybr Cyswllt Cymru
Published: 14/03/2016
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn gweithio i uno Saltney (Caer) â
Llandegla, gan gwblhaur llwybr cylch o amgylch Cymru gydar prosiect Llwybr
Cyswllt Cymru newydd.
Mae Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru yn ddau o lwybrau mwyaf
poblogaidd Cymru, sy’n tynnu miloedd o gerddwyr i mewn bob blwyddyn a chynnig
golygfeydd trawiadol. Maer gwaith hwn wedi bod yn bosibl o ganlyniad i grant
gwerth bron i £35,000 gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir.
Ariennir Cronfa Cymunedau’r Arfordir gan y Llywodraeth gydag incwm o asedau
morol Ystâd y Goron. Maen cael ei ddarparu gan y Gronfa Loteri Fawr ar ran
Llywodraeth y DU ar Gweinyddiaethau Datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, yr
Alban a Chymru.
Dros bellter o ddeunaw milltir drwy bedair sir, sef Sir y Fflint, Gorllewin
Swydd Caer a Chaer, Wrecsam a Sir Ddinbych, mae gwaith yn cael ei wneud i
uwchraddio rhannau o’r llwybr troed, gan osod camfeydd newydd, gosod giatiau
mochyn ac adeiladu llwybrau pren. Gan weithio mewn partneriaeth â thair sir
arall, mae Ceidwad Cefn Gwlad Sir y Fflint, Stephen Lewis, yn rhedeg y prosiect
a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Awst 2016.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac
Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
Mae’r cymorth ar gyfer y prosiect hwn wedi bod yn drawsffiniol a thraws gwlad
a hoffem ddiolch yn arbennig i holl staff hawliau tramwy Cynghorau, Sir y
Fflint, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Wrecsam a Sir Ddinbych sydd wedi gwneud y
llwybr twristaidd allweddol hwn yn bosibl.
Dywedodd Stephen Lewis:
Mae hwn yn brosiect mynediad gwych, maer llwybr yn mynd â chi drwy banorama
amrywiol o iseldir, coetir a rhostir yr ucheldir. Bydd yn denu cerddwyr i
fwynhaur ardaloedd arfordirol a gwledig trawiadol a geir yng ngogledd-ddwyrain
Cymru.
Yn ogystal â darparu llwybr allweddol, mae Llwybr Cyswllt Cymru hefyd yn creu
un or teithiau cerdded cylchol gorau yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy’n uno
rhannau iseldirol Aber Afon Dyfrdwy o Lwybr Arfordir Cymru gyda golygfeydd
trawiadol ucheldir Bryniau Clwyd ac AHNE Dyffryn Dyfrdwy drwy gefn gwlad
prydferth y gororau.
Rhagwelir cynnydd yn y cyfleoedd i dwristiaid wrth i fwy a mwy o ymwelwyr
ymweld â chyrchfannau allweddol megis Prestatyn, dechrau Llwybr Clawdd Offa, Y
Fflint, Caer a Chaergwrle gydai gastell cudd yng ngororau Cymru.
Press Release Pic 1.jpg Tri Fford stile.jpg
Llun 1: Stephen Lewis, Ceidwad Cefn Gwlad, Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint
Llun 2: Dave Roscoe a Richard Williams o Tri Fford yn gosod camfa, Bretton