Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant prentisiaid Sir y Fflint
Published: 17/05/2016
Cafodd hyfforddeion Cyngor sy’n gweithio tuag at eu prentisiaethau neu sydd
wedi eu cwblhaun llwyddiannus eu llongyfarch mewn seremoni wobrwyo ddiweddar
yng Ngholeg Cambria.
Mae rhaglen hyfforddi Cyngor Sir y Fflint wedi ei sefydlu ers ugain mlynedd.
Bob blwyddyn caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio i weithio ar draws y
Cyngor. Ar hyn o bryd mae 57 o hyfforddeion mewn lleoliadau ar draws y
sefydliad.
Mae’r prentisiaid fel arfer yn mynychu Coleg Cambria ar sail diwrnod astudio
dros ddwy neu dair blynedd tra byddant yn cael hyfforddiant ac asesiad yn y
gweithle.
Enillydd gwobr glodfawr Hyfforddai’r Flwyddyn Sir Y Fflint yw Madeleine
Henri-joy a dderbyniodd ei thlws gan Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Cambria,
David Jones.
Enwyd Philip Southern fel Hyfforddai Lefel Uwch y Flwyddyn a derbyniodd ei dlws
gan Colin Everett.
Y ddwy arall i gyrraedd y rownd derfynol oedd Nicole Askey a Mari Edwards.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
”Mae creu a datblygu’r prentisiaethau yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor ac
mae’r seremoni wobrwyo yn ffordd wych o ddathlu llwyddiant y rhai sy’n rhan o’r
cynllun ar hyn o bryd. Mae’r rhaglen wedi tyfu ac wedi datblygu dros y
blynyddoedd ac mae bellach yn cynnig rhaglen lawn o gyfleoedd prentisiaeth gan
gynnwys gweinyddu, TGCh, cyfrifyddiaeth, cadwraeth amgylcheddol, peirianneg,
arlwyo, hamdden, rheoli cefn gwlad ac amryw o ddisgyblaethau crefft.”
Dywedodd y Prif Weithredwr Colin Everett:
“Rydym yn falch iawn o’n cynllun prentis yn Sir y Fflint sy’n cael ei gydnabod
gan awdurdodau eraill a darparwyr addysg bellach fel arfer da gyda’n
partneriaeth gyda Choleg Cambria. Byddwn yn parhau i ddarparu cyfleoedd i
brentisiaid astudio a chael profiad gwerthfawr ymarferol or gweithle ar yr un
pryd. Mae gennym raddfa lwyddiant wych gyda 98% o’n hyfforddeion yn cael eu
cyflogi un ai gyda’r Cyngor neun allanol ac mae rhai yn symud ymlaen i
Brifysgol i barhau gyda’u hastudiaethau.
“Llongyfarchiadau i’n holl hyfforddeion, i’n graddedigion, ac i enillwyr y
gwobrau. Dyma ffordd addas o ddathlu 20 mlynedd o’r rhaglen wych hon.”
Meddai David Jones:
“Roeddwn wrth fy modd o gyflwyno Gwobr Hyfforddai’r Flwyddyn gan fod y
prentisiaid yn ysbrydoliaeth, mae angen canmol eu gwaith caled a’u hymrwymiad
i’w gwaith ac i’w haddysg. Mae mor dda gweld bod gan Gyngor Sir y Fflint ddull
mor gadarnhaol o hyfforddi a’u bod wedi llwyddo i benodi a datblygu
hyfforddeion mor dalentog.”
Mae Cynllun Uwch wedi ei gyflwyno ac eleni cychwynnwyd cynllun hyfforddi
graddedigion – gan recriwtio 3 person graddedig i ennill cymwysterau
proffesiynol.
Mae’r Cyngor bellach am recriwtio 20 o bobl i ymuno â rhaglen brentisiaid
2016. Mae’r microwefan bellach yn fyw ac yn cynnwys gwybodaeth ar yr 20 o
brentisiaethau. Er mwyn gweld y wybodaeth ac i wneud cais, ewch i
www.flintshire.gov.uk/trainees/.