Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tîm Profi, Olrhain a Diogelu Sir y Fflint yn ymateb i gynnydd mewn achosion o’r Coronafeirws yn ardal Y Fflint.
Published: 24/06/2021
Mae Tîm Profi, Olrhain a Diogelu Sir y Fflint wedi nodi nifer gynyddol o achosion o’r Coronafeirws yn ardal Y Fflint.
Mae sawl achos positif wedi eu cadarnhau ac mae nifer o bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r achosion hynny hefyd yn hunan-ynysu.
Wrth i gyfyngiadau lacio, mae Cyngor Sir Y Fflint yn annog trigolion i barhau i ddilyn y canllawiau a chadw’n ddiogel drwy:
• Gadw pellter cymdeithasol ( dwy fetr)
• Golchi eu dwylo’n aml
• Gwisgo mwgwd pan fydd angen
• Sicrhau fod eu cartref neu eu gweithle wedi ei awyru yn ddigonol
Atgoffir trigolion hefyd mai dim ond tair aelwyd all ffurfio aelwyd estynedig.
Os ydych yn byw yn ardal Y Fflint ac os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn dangos symptomau Coronafeirws, dylech archebu prawf Coronafeirws: https://bcuhb.nhs.wales/covid-19/test-trace-protect/testing-broader-covid-19-symptoms
Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi;
“Byddem hefyd yn annog unrhyw un sydd yn ystyried mynychu’r ffair yn Y Fflint yn nes ymlaen heddiw neu dros y penwythnos i gymryd Prawf Llif Unffordd cyn iddynt fynd, ond dim ond os nad oes ganddynt unrhyw symptomau coronafeirws. Mae citiau profion llif unffordd ar gael o swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu ar Stryd yr Eglwys, Y Fflint, a bydd citiau ar gael ar safle’r ffair hefyd, tra bydd yn cael ei chynnal.
“Dydy ffeiriau ddim yn gorfod cael ein caniatâd i ddigwydd, gan eu bod yn cael eu caniatáu o dan y lefel Rhybudd cyfredol yng Nghymru. Mae Swyddogion o’n Tîm Diogelu Cymunedol a Busnes yn gweithio gyda threfnwyr y ffair i sicrhau fod y digwyddiad yn cyd-fynd â chyfyngiadau covid.
Atgoffir unrhyw un sydd â symptomau neu sydd wedi derbyn canlyniad prawf llif unffordd positif fod yn rhaid i bawb o’u haelwyd hunan-ynysu ar unwaith hyd y bydd canlyniad eu prawf PCR wedi ei dderbyn.