Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arolygiaeth Gofal Cymru – Canlyniadau Ymweliad Sicrwydd
Published: 07/07/2021
Gofynnir i Gabinet y Cyngor gymeradwyo’r ymateb gweithredol a chynllun gweithredu i adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru pan fydd yn cyfarfod ar ddydd Mawrth 13 Gorffennaf.
Bu i AGC gynnal ymweliad Archwiliad Sicrwydd dwys yn Ebrill 2021 gydag wyth arolygydd yn darllen ffeiliau achos, cyfarfodydd gydag unigolion, teuluoedd, ymarferwyr, rheolwyr ac asiantaethau partner.
Bu i AGC ganolbwyntio ar bedwar egwyddor y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sef:
• Pobl – Llais a Rheolaeth
• Atal
• Lles
• Partneriaeth ac Integreiddio
Cyflwynodd yr arolygwyr adroddiad cadarnhaol iawn a chanfuwyd fod nifer o gryfderau yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint. Roedd yr arolygiaeth "yn sicr” bod Sir y Fflint wedi cyflawni eu dyletswyddau statudol i gadw pobl yn ddiogel a hyrwyddo eu lles yn ystod y pandemig. Nodwyd fod staff wedi eu cefnogi yn dda, wedi ymrwymo ac yn effeithiol yn eu gwaith i gefnogi pobl ddiamddiffyn, plant a theuluoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:
“Rwyf yn falch iawn bod AGC unwaith yn rhagor yn cydnabod cryfderau niferus, arloesedd ac ymrwymiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint i ddarparu ystod o wasanaethau cymorth a gofal i’n trigolion. Mae hyn yn dyst i waith gwych ein staff a’n timau a’r partneriaethau agos a geir gyda chydweithwyr ar draws y rhanbarth.
“Bu i’r arolygwyr ganfod tystiolaeth o “arferion da iawn” ar draws bob maes yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a bod y staff “wedi ymrwymo, yn wybodus ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau” i bobl. Er nad yw hyn yn unrhyw syndod i mi, mae’n galonogol gwybod bod hyn wedi ei gydnabod gan AGC.
“Rydym eisoes wedi dechrau ymdrin â'r nifer fechan o feysydd i'w gwella a nodwyd gan AGC a chroesawn gyfraniad yr arolygiaeth i’n galluogi i barhau i wella ein gwasanaethau.”