Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lloches Dynion
Published: 13/06/2016
Maer Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU) yn Sir y Fflint wedi agor y
drysau yn ddiweddar ir lloches gyntaf yng Ngogledd Cymru yn benodol ar gyfer
dynion syn dioddef cam-drin domestig. Mae DASU wedi gweithion agos gyda
Chymdeithas Dai Wales & West a Chyngor Sir y Fflint sydd wedi darparu yr eiddo
ar cyllid ar gyfer y prosiect.
Mae gan DASU lawer o flynyddoedd o brofiad yn darparu gwasanaethau cymorth
arbenigol i oroeswyr camdriniaeth domestig corfforol, emosiynol, ariannol a
rhywiol, gan gefnogi goroeswyr ers 1989. Maer partneriaid wedi dod ynghyd i
ddatblygu’r prosiect pwysig hwn mewn ymateb uniongyrchol i adborth gan ddynion
syn dioddef cam-drin domestig. Bydd datblygu’r lloches yn llenwi bwlch yn y
ddarpariaeth, yn cynyddu dewisiadau a gwella diogelwch a lles dynion yn yr
ardal.
Gyda DASU eisoes yn rheoli lloches i ferched yn llwyddiannus, pan gysylltodd y
sefydliad â Chyngor Sir y Fflint a Chymdeithas Dai Wales & West gydar awgrym o
agor lloches i ddynion, cafwyd ymateb cadarnhaol a rhagweithiol gan bawb dan
sylw. Yn ogystal â llety diogel, bydd dynion hefyd yn gallu cysylltu â’r nifer
o wasanaethau cefnogi a gynigir yn y siop un stop camdriniaeth domestig fel
cyngor cyfreithiol, cwnsela arbenigol a gwaith grwp therapiwtig.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod yn gryf yn ei safiad bod cam-drin a
cham-drin domestig, yn erbyn dynion neu ferched, yn anghywir ac maen rhaid
mynd ir afael ag o. Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i fyw mewn diogelwch
ac yn rhydd rhag ofn.”
Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Cymdeithas Dai Wales & West:
“Rydym yn awyddus iawn i helpu i gefnogir rhai sydd angen lloches. Maen
bwysig cydnabod bod dynion hefyd yn dioddef cam-drin domestig ac rydym yn falch
o weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a DASU er mwyn helpu i wneud
gwahaniaeth cadarnhaol iw bywydau.”
Mae Carl Sargeant, Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy, yn ymgyrchydd
ers amser hir yn erbyn cam-drin domestig ac ef unwaith eto yw’r gweinidog syn
gyfrifol am y mater hwn fel rhan oi rôl newydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros
Blant a Chymunedau. Dywedodd:
“Maen wych gweld Gogledd Cymru yn arwain y ffordd gydar lloches cyntaf yn y
rhanbarth i ddynion syn dioddef cam-drin domestig. Rwyf wrth fy modd gydag
agwedd rhagweithiol Cyngor Sir y Fflint, Cymdeithas Dai Wales & West a DASU i
fodlonir angen hwn.
“Rwyn gwybod o weithio gyda DASU dros y blynyddoedd y byddant yn gwneud
gwahaniaeth go iawn a chadarnhaol i gymaint o ddynion sydd angen eu cymorth a
chefnogaeth arbenigol. Gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un ac maen
wych i wybod bod cymorth ymarferol ar gael yn Sir y Fflint rwan ar gyfer
dioddefwyr or ddau ryw.”
I gael mynediad ir lloches neu i gael cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim os
ydych yn dioddef o gamdriniaeth domestig, ffoniwch Llinell Gyngor Cam-drin
Domestig a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan ar 0808 8010 800 neu’r Mankind Initiative
01823 334244.
9292.jpg
Or chwith: Sian Hughes – Swyddog Ariannu a Monitro DASU, Lisa Pearson –
Swyddog Contract ac Adolygu Cyngor Sir y Fflint, Cyng Aaron Shotton - Arweinydd
y Cyngor, y Cynghorydd Helen Brown - Aelod Cabinet dros Dai, Sandra Vedovotto -
Rheolwr Prosiect DASU, Becky Tullett, Swyddog Contract ac Adolygu Cyngor Sir y
Fflint, Will Brooks - Swyddog Tai WWHA, Deb Ward - Rheolwr Tai, Emma Glover -
Ymgynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig DASU