Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhaglen Grant Cyfalaf Cynnig Gofal Plant yn helpu darparwyr gofal plant lleol
Published: 13/07/2021
Mae Blynyddoedd Cynnar Sir y Fflint wedi cymeradwyo 105 o geisiadau gan ddarparwyr gofal plant, yn eu helpu i wella’r cyfleusterau y maent yn eu cynnig neu i leihau'r oedran y gallent ddarparu ar eu cyfer i gynnwys plant 3 a 4 mlwydd oed.
Gwobrwywyd £500,000 o arian Llywodraeth Cymru i’r Cyngor o’r cynllun grant ac £122,000 ychwanegol ar gyfer gwaith Cyfalaf yn gysylltiedig â COVID-19.
O’r 105 o geisiadau a gafodd eu cymeradwyo rhwng 2018 a 2021, roedd 23 yn gysylltiedig â COVID-19.
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, Y Cynghorydd Christine Jones:
“Bydd rhieni sy’n gweithio ac angen gofal plant Cyn Ysgol yn elwa o’r swm sylweddol yma o arian ar gyfer Sir y Fflint ac yn cynnig cyfleusterau modern i blant chwarae, dysgu a datblygu.”
Dywedodd Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Sir y Fflint, Y Cynghorydd Ian Roberts:
“Mae cydweithwyr y gwasanaethau cymdeithasol wedi gweithio mewn partneriaeth lawn â swyddogion addysg ar y cynllun hanfodol yma ac rwy’n llawn gefnogi’r rhaglen ardderchog yma sydd, fel y gwelwch chi, yn darparu cyfleusterau gofal plant o’r radd flaenaf ar gyfer nifer o blant yn y sir.”
Isod mae rhai enghreifftiau o’r gwahaniaethau mae’r grantiau yma wedi eu gwneud i blant lleol.
Yn ystod 2019 – 2021 roedd modd i Sêr Bach – Glannau Dyfrdwy ailwampio eu cegin.
Dywedodd Becky ac Ellie o Sêr Bach:
“Hoffai Sêr Bach ddiolch o waelod calon i’r tîm am ganiatáu i ni gael yr arian yma er mwyn gwneud y newid yma yn bosib. Roedd yr hen gegin wedi bod yn rhan o Sêr Bach o’r dechrau, ac er ei fod yn dal i ddarparu pob dim i ni yr oedd ei angen arnom, roedd ôl defnydd arno ac roeddem yn dechrau cael trafferth defnyddio’r cyfleusterau oedd gennym ni. Galluogodd y grant yma i ni ddiweddaru ein hoffer a darparu storfa ychwanegol yr oedd mawr ei angen a’n galluogi ni i gyrraedd at yr offer yn haws."
o'r blaen
|
ar ôl
|
Derbyniodd Meithrinfa Ddydd Hope Green arian ychwanegol LlC ar gyfer gwaith cyfalaf yn gysylltiedig â COVID-19 er mwyn adeiladu llyfrgell tu allan a oedd wedi ei awyru a’i wresogi. Wrth osod hysbysfwrdd y tu allan, gall rhieni weld yr wybodaeth ddiweddaraf, yn hytrach na gorfod rhoi copïau papur i bawb.
Dywedodd Jill o Feithrinfa Ddydd Hope Green:
“Mae’r grant bychan wedi ein galluogi i brynu sawl adnodd newydd ar gyfer y tu mewn a’r tu allan ac mae’r plant wedi mwynhau eu defnyddio. Mae’r adnoddau yma wedi darparu cyfleoedd newydd i ddysgu ar hap ac wedi eu cynllunio. Oherwydd COVID-19 rydym ni wedi bod yn treulio mwy o amser yn yr awyr agored ac mae’r adnoddau newydd wedi ein galluogi i ehangu’r ystod o weithgareddau y gallwn eu cynnig. Teimlwn fod y grant yma wedi cael effaith positif ar yr hyn mae’r plant yn ei ddysgu a’u datblygiad.”
Stori lwyddiannus arall yw Gwasanaeth Gwarchod Plant – Little Monsterz. Fe wnaethant ddefnyddio ei grant ar gyfer ystafell chwarae tu allan a tho dros ardal chwarae â decin.
Dywedodd Karen o Little Monsterz:
“Ni allai’r amseru wedi bod yn fwy perffaith i ni gael yr ystafell chwarae tu allan a’r to dros yr ardal chwarae â decin. Er mwyn iechyd a lles ein plant rydym ni wedi treulio mwy o amser nag erioed yn chwarae tu allan. Mae’n galluogi plant i dreulio amser tu allan hyd yn oed os yw hi’n bwrw glaw.
Mae gennym y lle i storio a chael cyfarpar ar gyfer yr ystafell chwarae tu allan, gydag eitemau hyfryd i annog y plant i fod yn greadigol. Maent yn dysgu mewn modd pleserus a hwylus. Os ydyn nhw eisiau amser tawel gallent wneud eu hunain yn gyfforddus ar y glustog enfawr a darllen llyfr.
Mae’n wych fod ganddynt le ychwanegol, gallent fynd fel y mynnant o’r ystafell chwarae dan do i’r decin ac yna i’r ardal chwarae tu allan, gan chwarae ag unrhyw beth mae eu dychymyg eisiau iddynt.”
o'r blaen
|
ar ôl
|
Mae’n ofynnol i’r Awdurdod Lleol weinyddu a rheoli Cynllun y Grantiau Bychan ar gyfer darparwyr gofal plant Sir y Fflint, gan sicrhau eu bod yn gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr o’r sefydliadau ambarél ar gyfer gofal plant (CWLWM) – Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, Mudiad Meithrin, NDNA Cymru (National Day Nurseries Association Cymru) a PACEY Cymru (Professional Association for Childcare and Early Years) wrth ystyried ceisiadau.