Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant i holl Ysgolion Uwchradd Sir y Fflint drwy ennill Gwobr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau
Published: 13/07/2016
Mae Ysgolion Uwchradd ledled Sir y Fflint wedi derbyn Gwobr Ymwybyddiaeth o
Gyffuriau Sorted Sir y Fflint.
Cyflwynodd Nicky Evans, Arweinydd Tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc Sorted
Sir y Fflint, y Wobr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau yng Nghyngor Sir y Fflint.
Dywedodd:
“Mae’r Wobr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau yn safon uchelgeisiol i ysgolion sy’n eu
cefnogi i fynd i’r afael â materion cyffuriau ac alcohol drwy ymyrraeth gynnar
a chefnogaeth barhaus fel sesiynau ABCH (addysg bersonol a chymdeithasol),
sesiynau galw heibio cyson yn ystod amser cinio, addysg cyfoedion, ymyrraeth
wedi’i thargedu ac ymyrraeth unigol.
“Mae ar flaen y gad wrth wneud newid go iawn. Gydag athrawon a disgyblion yn
cymryd rhan, mae gan ysgolion Ymwybyddiaeth o Gyffuriau bolisi, addysg a
chefnogaeth cyffuriau ac alcohol well i bobl ifanc sy’n agored i niwed. Mae gan
ysgolion Ymwybyddiaeth o Gyffuriau weithiwr cyswllt Sorted sy’n gyfrifol am
gydlynu a gweithredu ymyrraeth atal cyffuriau ac alcohol yn eu hysgolion
penodedig.”
Roedd Claire Broad, Ymgynghorydd Ysgolion Iach Sir y Fflint ac Ymarferwyr
Addysg Sorted yno i longyfarch yr Ysgolion Uwchradd ar eu gwaith caled au
hymroddiad wrth ennill y wobr.
Yn y flwyddyn academaidd hon, gwnaed adolygiad or polisi camddefnyddio
sylweddau presennol ar y cyd gan Ysgolion Iach Sir y Fflint a Sorted.
Mae pob un o’r tair ysgol uwchradd ar ddeg wedi llwyddo i gyrraedd y safon ar
gyfer y flwyddyn academaidd 2015-2016. Y rhain yw Ysgol Alun, yr Wyddgrug,
Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Maes Garmon, Argoed, Elfed, John
Summers, Penarlâg, St David’s, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon ac Ysgol
Uwchradd Castell Alun yn ogystal ag Ysgol Maes Hyfryd.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Sir y
Fflint:
“Llongyfarchiadau ir ysgolion sydd wedi llwyddo i gyrraedd y safon. Camp a
hanner yw bod pob un on 13 ysgol wedi cyrraedd y safon hwn o gymharu â saith 2
flynedd yn ôl. Mae hyn yn golygu bod plant a phobl ifanc yn cael addysg
gyffuriau well yn ein hysgolion, gyda pholisi gwell, staff sy’n fwy hyderus a
phroses effeithiol o ymyrryd yn gynnar. Y nod yw newid y ffordd y mae pobl
ifanc yn meddwl am ac yn ymddwyn o amgylch cyffuriau ac alcohol wrth i bobl
ifanc ganolbwyntio ar y modd y mae sylweddau’n effeithio ar eu bywydau ar hyn o
bryd a datblygu sgiliau amddiffynnol.
Os hoffech fwy o wybodaeth ynglyn â Sorted Sir y Fflint, yna cysylltwch â’r tîm
ar 01352 703490.
Chwith ir dde: Laura Roberts - Flintshire Sorted, Claire Morter - Flintshire
Sorted, Jade Williams - Elfed High school, Nicky Evans - Flintshire Sorted,
Dawn Ashton- Flintshire Sorted, Holly Macfarlane - St Davids High school, Colin
Ellis - Alun School, Jayne Fisher - Flint High school, Annette Connah -
Hawarden High school, Jullie Parry -Hawarden High school
Ysgolian eraill: Argoed, Holywell, John Summers, Connahs Quay, Maes Hyfryd,
Castell Alun, St Richard Gwyn Catholic High