Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Bwrdd NEW Homes yn cymeradwyo cynllun tai newydd yn y Fflint
Published: 12/10/2016
Mae Bwrdd NEW Homes wedi rhoi sêl bendith i gynllun tai newydd gwerth £7.77m a
fydd yn darparu 62 o gartrefi fforddiadwy newydd yng nghanol tref y Fflint.
Mae North East Wales (NEW) Homes a Chyngor Sir y Fflint wedi datblygu dull
arloesol o ariannur cynllun gan y bydd y Cyngor yn darparu benthyciad cyllid
cyfalaf i NEW Homes.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a
Chadeirydd NEW Homes:
“Rwyn falch iawn y bydd NEW Homes yn parhau i weithion agos gydar Cyngor i
gyflawnir cynllun blaenllaw hwn. Bydd hyn yn gwellar cynnig tai i bobl syn
byw yn y Fflint.”
Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential:
“Nid yn unig y bydd y bartneriaeth rhwng Wates Residential, Cyngor Sir y
Fflint a NEW Homes yn darparu tai newydd o ansawdd uchel er mwyn helpu i ateb y
galw presennol, bydd hefyd yn rhoi hwb sylweddol i economi’r Fflint trwy
fuddsoddi mewn isgontractwyr a chyflenwyr lleol, tra hefyd yn creu swyddi a
chyfleoedd hyfforddi i bobl leol.”
Yn ychwanegol at y 62 o gartrefi fforddiadwy, bydd y cynllun hefyd yn darparu
30 o gartrefi Cyngor newydd ar y safle.
Bydd y cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu gan Wates Residential a bydd y
gwaith adeiladu’n dechrau’n nes ymlaen y mis hwn a disgwylir iddo gael eu
cwblhau ym mis Ebrill 2018.