Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Published: 13/10/2016
Mae angen i bob awdurdod lleol yng Nghymru lunio a chyhoeddi amcanion
cydraddoldeb pob 4 blynedd. Yn ei gyfarfod nesaf, bydd gofyn i Gabinet Cyngor
Sir y Fflint gytuno ar ail Gynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) y Cyngor cyn ei
gyhoeddi.
Yn 2012, cytunodd y Cyngor ar ei CCS cyntaf, ac fe osodwyd 6 amcan lefel uchel
fel a ganlyn:
• Lleihau anghydraddoldebau iechyd
• Lleihau canlyniadau anghyfartal mewn addysg er mwyn gwneud y gorau o
botensial unigolion
• Lleihau anghydraddoldeb o ran cyflogaeth
• Lleihau anghydraddoldeb o ran diogelwch personol
• Lleihau anghydraddoldeb o ran cynrychiolaeth a llais
• Lleihau anghydraddoldeb o ran cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau,
adeiladau ar amgylchedd.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol
Cyngor Sir y Fflint:
“Rydym yn falch o gyhoeddir cynllun hwn syn rhoi manylion am yr amcanion, y
camau gweithredu ar targedau y byddwn yn ymgymryd â nhw yn ystod y pedair
blynedd nesaf ac sy’n nodir dystiolaeth ar resymeg y maer amcanion wedi’i
seilio arnynt. Cytunwyd y dylid cadw’r un amcanion â’r rhai a sefydlwyd yn
2012. Mae llawer o waith i’w wneud eto. Nid oes modd lleihau anghydraddoldeb
sydd wedi gwreiddio’n ddwfn mewn cyfnod byr ac maen rhaid parhau er mwyn
sicrhau ein bod yn gweld canlyniadau dros gyfnod hwy. Dyma oedd barn y
rhanddeiliaid allweddol wrth i ni ymgynghori â nhw.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
“Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â’r holl gyrff cyhoeddus ar draws
Gogledd Cymru ac rydym yn falch bod aelodaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector
Cyhoeddus gwreiddiol Gogledd Cymru wedi tyfu ac yn cynnwys Coleg Cambria a
Phrifysgol Glyndwr. Mae gweithio mewn partneriaeth yn bwysig yn y cyfnod
ariannol anodd hwn, ond mae hefyd yn helpu i nodi amcanion cydraddoldeb
cyffredin.”