Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion yr 21ain Ganrif

Published: 13/10/2016

Bydd cynigion cyffrous ar gyfer cam nesaf rhaglen foderneiddio ysgolion y Cyngor yn cael eu rhannu gyda Chabinet Sir y Fflint yn eu cyfarfod ar 18 Hydref. Maer cynigion, sy’n rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, yn cyd-fynd â blaenoriaeth y Cyngor o ran sgiliau a dysgu – gan wella darpariaeth ddysgu a chyfleoedd i gyflawni canlyniadau gwell i ddysgwyr a sicrhau ein bod ni’n paratoi’r gweithlu gorau ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn cwblhau Campws Dysgu Treffynnon (Ysgol Treffynnon ac Ysgol Maes y Felin) a Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy, mewn pryd ac o fewn y gyllideb, mae yna £18.564 miliwn arall ar gael i fwrw ymlaen â phrosiectau eraill unwaith y mae eu cynigion wedi eu cytuno arnynt gyda Llywodraeth Cymru. Un or cynigion yw moderneiddio Ysgol Uwchradd Cei Connah. Maer cynnig yn cynnwys bloc Dylunio a Thechnoleg a bloc Celf a Thechnoleg Bwyd newydd. Bydd y bloc tri llawr presennol yn cael ei ddisodli gan adeilad deulawr newydd a fydd yn cynnwys adran weinyddol, blociau Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd a Chelf a Dylunio, ystafell ar gyfer darpariaeth addysgu ychwanegol, swyddfa, toiledau, lifft, grisiau ac ystafell beiriannau. Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Maer Cyngor wedi cytuno ar becyn ariannu gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer ei raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £64.2 miliwn. Agorwyd dau ddatblygiad campws modern a chyffrous yn ddiweddar, un yn Nhreffynnon a’r llall yng Nglannau Dyfrdwy, fel rhan or rhaglen hon. Bydd gofyn ir Cabinet ystyried adroddiadau cynnydd ar brosiectau eraill sy’n rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan gynnwys prosiect Ysgol Uwchradd Cei Connah. Maer Cyngor yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol ein plant an pobl ifanc. Rydym ni hefyd yn parhau i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o ansawdd uchel in holl ddysgwyr.” Bydd y Cabinet hefyd yn trafod y cynigion ar gyfer moderneiddio ac uno safleoedd Ysgol Penyffordd. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Dyma brosiect cyffrous arall syn rhan on rhaglen foderneiddio ysgolion heriol. Maer dyluniad yn dangos y gellir estyn ysgol fabanod Lôn yr Abad i ddarparu darpariaeth gynradd gyflawn heb amharu gormod ar weithrediad presennol yr ysgol. Bydd hyn yn darparu dyfodol disglair a chadarnhaol ir ysgol. Maen dangos ymrwymiad y Cyngor i raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sydd eisoes wedi gweld llwyddiannau diweddar ar Gampws Dysgu Treffynnon a Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy, an hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith ar gyfer ein cymunedau.