Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arolwg: Y system fudd-daliadau yng Nghymru
Published: 03/08/2021
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Pwyllgor Materion Cymreig arolwg i glywed am brofiadau pobl o’r system fudd-daliadau.
Fis diwethaf agorodd y Pwyllgor ymchwiliad i’r system, Y System Fudd-daliadau yng Nghymru, yn edrych ar yr heriau a wynebir, pa mor effeithiol ydyw wrth drechu tlodi a diwygiadau posib. Bellach maent eisiau clywed yn uniongyrchol gan hawlwyr, i gael gwell darlun o'r problemau a wynebant a pha gwestiynau y dylai'r Pwyllgor eu gofyn i Lywodraeth y DU.
Mae’r arolwg ar agor i’r holl hawlwyr yng Nghymru yn ogystal â’r rhai sydd wedi ystyried hawlio. Mae’n cynnwys budd-daliadau'r DU yn ogystal â Llywodraeth Cymru a chefnogaeth awdurdod lleol, megis gostyngiad Treth y Cyngor a’r Gronfa Cymorth Argyfwng. Mae’r Pwyllgor yn croesawu hawlwyr yn rhannu eu profiadau a safbwyntiau. Gallai’r wybodaeth a ddarperir gael ei chyhoeddi a’i defnyddio yn nhrafodion y Pwyllgor, fodd bynnag mae’r arolwg ei hun yn ddienw.
Mae ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg ac ar agor tan 17:00 ar ddydd Mercher 22 Medi – mae ar gael yma.