Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru
Published: 04/08/2021
Ydych chi’n defnyddio neu ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru?
Hoffai Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Gofal a Lleisiant Gogledd Cymru ni gael gwybod eich barn chi am y gofal a’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd, a sut y gellid ei wella.
Am fwy o wybodaeth, ewch i cydweithredfagogleddcymru.cymru/asesiad-o-anghenion-poblogaeth-gogledd-cymru.
Os byddai’n well gennych chi ateb y cwestiynau dros y ffôn, cysylltwch ag Eluned Yaxley ar 01824 712041. Os hoffech chi gysylltu â ni’n defnyddio dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio Gwasanaeth InterpretersLive!, a ddarperir gan Sign Solutions.
Fyddech chi cystal â llenwi’r arolwg erbyn 17 Medi 2021.
Mae Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru yn cynnwys chwech awdurdod lleol Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid eraill. Y nod yw gwella gwasanaethau, gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael, lleihau dyblygiad a sicrhau gwasanaethau mwy cyson ar draws Gogledd Cymru.