Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn dal i fwynhau haf llawn hwyl
Published: 10/08/2021
Mae cynlluniau chwarae’r haf yn Sir y Fflint yn eu hanterth!
Dechreuodd y cynlluniau chwarae (yn Gymraeg a Saesneg) ledled y sir ddydd Llun 19 Gorffennaf a hyd yn hyn eleni mae Tîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint wedi darparu 825 o sesiynau chwarae, sy’n gyfwerth â 1,650 o oriau o chwarae i 2,500 o blant 5-12 oed hapus iawn.
Fel yn y blynyddoedd diweddar mae Cynllun Cyfeillio Sir y Fflint wedi cefnogi 36 o blant a phobl ifanc ag anableddau i fynychu eu cynlluniau chwarae lleol.
Mae pob sesiwn yn rhad ac am ddim ac mae dulliau rheoli Covid-19 ar waith ar bob safle.
Er bod rhai sesiynau wedi dod i ben ar ôl tair wythnos, mae llawer o rai eraill yn parhau am 4, 5 a 6 o wythnosau – holwch i weld a oes cynllun chwarae’n agos atoch chi! Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer pob safle ac ni dderbynnir mwy na 30 o blant ymhob sesiwn.
Mae’r holl wybodaeth a ffurflenni caniatâd rhiant/gofalwyr ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint: Cynlluniau Chwarae’r Haf. Gallwch gael cymorth i lenwi’r ffurflenni drwy gysylltu â’r Tîm Datblygu Chwarae.
Darperir y cynlluniau gan Dîm Datblygu Chwarae’r Cyngor mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned, Gwasanaeth Anableddau Teuluoedd Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru. Diolch o galon i’n holl bartneriaid – ni fyddai modd cynnal y cynlluniau chwarae hyn heb eu cefnogaeth a’u cymorth.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:
Janet Roberts, Swyddog Datblygu Chwarae Sir y Fflint
Rhif ffôn: 07518 602614 e-bost: Janet.Roberts2@flintshire.gov.uk