Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arolygydd Cynllunio yn gwrthod apêl o blaid penderfyniad y Cyngor
Published: 08/09/2021
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i amddiffyn apêl gan Punch Partnerships Ltd. wedi i gais cynllunio diweddar gael ei wrthod.
Roedd Punch Partnerships wedi gwneud cais i adeiladu tri thy a garejis tu ôl i dafarn y Swan Inn yn Higher Kinnerton. Roedd mynediad i’r safle drwy faes parcio’r dafarn.
Gwrthodwyd y cais cynllunio gwreiddiol oherwydd yr effaith y byddai’r datblygiad arfaethedig yn ei chael ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal a lleoliad Kinnerton Hall sydd yn adeilad rhestredig Gradd II.
Dywedodd yr Arolygydd:
“Rwy’n cydnabod bod adeilad ar y safle sydd yn cael ei apelio. Fodd bynnag, byddai’r datblygiad arfaethedig o dri thy mawr ar wahân a dau garej ddwbl yn amhariad gweledol sylweddol yn yr ardal tu ôl i’r adeiladau sydd yn wynebu Main Road. Byddai hefyd yn groes i batrwm cyffredinol datblygiadau yn yr ardal ac yn cael effaith niweidiol ar y lleoliad yn y rhan yma o’r pentref.”
Nid oedd yr Arolygydd yn cytuno â dadl y sawl oedd yn apelio, y byddai’r wal a’r planhigion a gaiff eu plannu yn cuddio’r datblygiad arfaethedig o olwg Kinnerton Hall. Nododd yr arolygydd y byddai’r datblygiad arfaethedig yn mynd yn groes i adeiladau’r pentref, yn hytrach na gweddu â nhw. Daeth i’r casgliad y byddai’n cael effaith anffafriol ar leoliad Kinnerton Hall a chymeriad ac ymddangosiad yr ardal.
Fe wnaeth yr Arolygydd gydnabod bod Higher Kinnerton wedi ei adnabod fel lleoliad cynaliadwy ar gyfer twf, a bod prinder o dai yn y Sir. Fodd bynnag, nid oedd yn ystyried bod y ffactorau hyn yn gorbwyso’r niwed a nodwyd i leoliad Kinnerton Hall a chymeriad ac ymddangosiad yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:
“Mae’r llwyddiant wrth wrthod yr apêl yma yn dangos bod penderfyniad gwreiddiol Sir y Fflint yn un cywir. Wrth ystyried pob cais mae’r Cyngor yn dilyn camau pwyllog a threfnus ac rydym yn cymryd pob safbwynt i ystyriaeth. Ar un llaw mae’n gwbl glir fod angen rhagor o dai yn y Sir, ond ar y llaw arall mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau nad yw hyn yn peryglu ein diwylliant, sydd angen i ni ei ddiogelu nawr er mwyn cenedlaethau'r dyfodol.