Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ailgyflwyno Taliadau Parcio Ceir
Published: 22/09/2021
Caiff taliadau parcio ym meysydd parcio oddi ar y stryd Cyngor Sir y Fflint eu hailgyflwyno ar 1 Hydref 2021.
Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth ac er mwyn cynorthwyo pob gweithiwr allweddol yn ystod pandemig COVID-19, mae parcio am ddim wedi bod ar gael mewn meysydd parcio a weithredir gan y Cyngor ers mis Mawrth 2020.
Parhaodd hyn er mwyn helpu busnesau lleol wrth iddynt ddod allan o’r cyfnod clo yr haf diwethaf a pharhaodd i’r hydref a’r gaeaf.
Cafodd hyn ei ymestyn wedyn i fis Medi 2021 er mwyn cefnogi agor ac adfer canol trefi yn raddol ac er mwyn annog nifer yr ymwelwyr.
Nawr, wrth i fwy o fusnesau ailagor, byddwn yn ailgyflwyno taliadau parcio er mwyn lleihau tagfeydd posibl a helpu â mynediad i’r meysydd parcio arhosiad byr.
Ers 1 Gorffennaf 2021, mae taliadau wedi’u codi yn Nhalacre, prif gyrchfan i dwristiaid y Sir, yn barod at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr cyn tymor gwyliau’r ysgol, ac er mwyn sicrhau bod mannau parcio ar gael trwy gydol y dydd.
Mae iechyd a diogelwch y cyhoedd ym mhob maes parcio yn dal i fod yn flaenoriaeth. Cynghorir pobl i barhau i ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol bob amser.
Dywedodd y Cyng. Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant:
“Mae nifer yr ymwelwyr wedi bod yn cynyddu’n gyson yng nghanol ein trefi wrth i bobl ddychwelyd i’r gwaith ac i’r siopau a’r bwytai maen nhw wedi gweld eu colli.
“Mae’r gefnogaeth mae parcio am ddim wedi’i rhoi i weithwyr allweddol, busnesau hanfodol ac eraill am fwy na 18 mis wedi bod yn amhrisiadwy.
“Er ein bod wedi penderfynu ailgyflwyno’r taliadau, mae angen i ni reoli argaeledd parcio i bawb a sicrhau bod y meysydd parcio sy’n agos at ganol trefi ar gael i siopwyr a bod y meysydd parcio sydd ymhellach oddi wrth y dref wedi’u dynodi ar gyfer parcio trwy’r dydd. Hoffem gyfeirio ymwelwyr sy’n dymuno aros am gyfnod hirach, a phobl sy’n teithio i’r gwaith, i’r meysydd parcio arhosiad hir yng nghanol trefi, lle gallwch barcio am cyn lleied â £1.50 y dydd. Bydd hyn yn sicrhau bod lleoedd parcio arhosiad byr ar gael mewn meysydd parcio canolog.
“Hoffem annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu gerdded a beicio lle bynnag bo’n bosibl hefyd. Bydd hyn yn ei dro yn lleihau dibyniaeth ar ddefnyddio cerbydau unigol ar gyfer teithiau byr.”