Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymweliad Gweinidogol ag Ysgol Leol
Published: 30/09/2021
Ymwelodd y Gweinidog Addysg ac Iaith Gymraeg, Jeremy Miles AS ag Ysgol Penyffordd yn ddiweddar.
Agorodd yr ysgol gwerth miliynau o bunnoedd ei drysau i ddisgyblion ym mis Medi 2019.
Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cynnwys Campws Dysgu Treffynnon, yn ogystal â’r gwaith i foderneiddio a gwella Ysgol Uwchradd Cei Connah.
Mae’r ysgol bwrpasol hon yn ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant 3 – 11 oed ar safle Abbotts Lane. Mae’n cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer 315 o ddisgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 2 yn ogystal â neuadd a stiwdio.
Unodd yr ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant 3-11 oed ar safle Abbotts Lane. Cafodd yr ysgol bresennol i fabanod ei dymchwel, adeiladwyd maes parcio gwell a mwy ar gyfer staff ac ymwelwyr ac mae ardal ollwng benodol i rieni a gofalwyr wedi’i chreu.
Dywedodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg:
“Roeddwn i’n falch iawn o gael ymweld ag Ysgol Penyffordd. Mae gan yr ysgol gyfleusterau gwych, ac rydw i’n falch ein bod wedi gallu cefnogi datblygiad yr adeilad gwerth £7 miliwn o'n Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain ganrif.
“Rydw i’n sicr y bydd yr ysgol yn darparu amgylchedd gwych i blant Penyffordd ffynnu am flynyddoedd i ddod.
“Diolch i bawb yn yr ysgol am eu croeso cynnes!”
Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
“Mae'n anrhydedd i mi allu dangos yr ysgol gynradd wych hon i'r Gweinidog - carreg filltir arall yn narpariaeth rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint. Mae’r buddsoddiad yn darparu cyfleuster modern bendigedig ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach a bydd yn cynnig profiad dysgu newydd, llawn ysbrydoliaeth i blant ysgolion cynradd.”
Dywedodd Jayne Mulvey, y Pennaeth:
“Ar ôl i ni fod ar ddau safle ers i ni uno sawl blwyddyn yn ôl, mae’n wych bod holl blant Ysgol Penyffordd rwan ar un safle yn ein hysgol newydd o’r radd flaenaf.
“Er gwaethaf yr heriau mae COVID wedi ei daflu at ysgolion, mae'r plant wedi setlo'n wych i'w hamgylchedd newydd, wrth i ni wneud y mwyaf o'n cyfleusterau newydd i gyd.
“Diolch i bawb yn Wynne Construction, Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru am eu help, eu cefnogaeth a'u cyngor o'r camau cynllunio cynnar i'r gwaith cwblhau terfynol. Rydym yn eithriadol o falch a hapus gyda’n hysgol newydd, a chael cyfle i’w rhannu gyda phentrefwyr Penyffordd a’u plant.”