Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned - Yr Hôb – Cyfnod Ymgynghori yn Dechrau
Published: 05/10/2021
Yn dilyn cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru am gyllid i fynd i’r afael â phryderon diogelwch ar y ffyrdd a thagfeydd o amgylch ardaloedd Ysgol Estyn ac Ysgol Uwchradd Castell Alun, mae Cyngor Sir Y Fflint yn gwahodd preswylwyr i ddweud eu dweud am y gwelliannau arfaethedig.
Mae cynigion yn cynnwys:
- Cyflwyno llwybr a rennir sy’n 3m o hyd ar hyd yr A550 o gylchfan Penyffordd a chysylltu gyda’r droedffordd bresennol yn ystâd dai Mountain View.Croesfan Twcan dros yr A550 Ffordd Wrecsam.
- Gwelliannau i ddyluniad nifer o gyffyrdd yn yr ardal a fydd yn gwella diogelwch a gwelededd defnyddwyr diamddiffyn.
- Gwelliannau o amgylch Ysgol Uwchradd Castell Alun ac Ysgol Estyn, yn cynnwys: terfyn cyflymder 20mya, mesurau gostegu traffig sy’n gyfeillgar i feicwyr, cyfyngiadau parcio ar hyd Stryt Isa a Fagl Lane, llwybrau troed gwell o amgylch yr ysgol.
- Cyflwyno cyfyngiad ‘Mynediad yn Unig’ i atal gyrwyr rhag gyrru mewn cylchoedd.Lôn lle gellir troi i’r dde ar Kinnerton Lane.
Yn y sefyllfa bresennol, nid ydym yn gallu cynnal digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, rydym eisiau clywed eich barn am y cynigion, felly rydym yn gofyn i chi edrych ar y cynigion ar-lein yma: www.siryfflint.gov.uk/LlwybrauDiogelYrHob a rhannu eich sylwadau.
Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur, ffoniwch 01352 701234 i wneud cais am fwy o wybodaeth. Bydd y cyfnod ymgynghori’n dechrau ar 4 Hydref a bydd yn dod i ben am hanner nos ar 1 Tachwedd 2021.