Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Maethu trwy COVID – sut gefnogodd model Mockingbird ofalwyr maeth Sir y Fflint trwy gydol y cyfnodau clo.
Published: 12/10/2021
Mae’r gofalwyr maeth Jenny a Janette sydd â dros 11 mlynedd o brofiad o faethu rhyngddynt, wedi cefnogi gofalwyr maeth eraill megis Sarah trwy’r cyfnodau clo'r llynedd fel rhan o fodel cefnogi maethu arloesol.
Mae gofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, Jenny, Sarah a Janette, a 13 o deuluoedd maethu lleol eraill, oll yn elwa o fod yn rhan o fodel cefnogi o’r enw Mockingbird. Wedi’i lansio yn Sir y Fflint yn 2019, mae gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn gweld y ffordd newydd o faethu yn mynd o nerth i nerth. Mae Mockingbird a arweinir gan y Rhwydwaith Maethu yn y DU, yn darparu gofal maeth cynaliadwy. Mae’n fodel wedi’i seilio ar dystiolaeth ac wedi’i strwythuro o amgylch y gefnogaeth a pherthnasau mae teulu estynedig yn ei ddarparu.
“Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn heriol ar gyfer nifer o bobl. I rai gofalwyr maeth, roedd yn gyfnod da gan fod y plant oedd yn ei chael yn anodd yn yr ysgol yn gweld dysgu o adre yn haws. Roedd yn gyfle i ffurfio perthnasau agos. Byddem yn mynd am dro hir gyda’r cwn ac roeddwn yn addysgu’r plant wrth i ni gerdded a siarad. Roedd plant eraill yn ei chael yn anodd o ran colli arferion dyddiol. I ni oll, yr ynysu oedd yn anodd.” Jenny, gofalwr maeth.
Yn ffodus, ar gyfer gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn Sir y Fflint, roedd grwp bychan o ofalwyr maeth i siarad â nhw, fel rhan o’r model Mockingbird.
“Mockingbird yw un o’r pethau gorau allwch chi ei wneud wrth faethu. Mae’n rhoi rhwydwaith o gefnogaeth i chi ar unwaith. Os oes rhywbeth yn digwydd yn eich teulu chi, mae rhywun wrth gefn. Pan anafais fy nghoes, fe wnaeth y grwp fy nghefnogi.” eglurodd Jenny, gofalwr maeth hwb ar gyfer clwstwr Bwcle.
Mae Janette, sydd wedi maethu ers 7 mlynedd wedi lansio ail glwstwr Mockingbird Sir y Fflint yn ardal Treffynnon:
“Fel gofalwr maeth hwb, fy rôl yw gweithredu fel glud sy’n glynu’r grwp ynghyd. Gallaf gynnig cymorth. Nid ydym yn rhy bell o’n gilydd, felly mae aelodau yn dechrau cefnogi ei gilydd hefyd. Os ydych yn mynd ar gwrs hyfforddi, mae’n hawdd codi plant sy’n mynychu’r un ysgol. Gallwn rannu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn lleol”
“Mae’r digwyddiadau cymdeithasu wedi bod yn wych. Mae gweld plant yn chwarae gyda’i gilydd gyda phlant eraill yn yr un sefyllfa, yn normaleiddio bod mewn gofal.”
“Mae mor syml, ond mae’n gwneud gymaint o wahaniaeth. Yn ein profiad ni o faethu dros y 7 mlynedd ddiwethaf, yr amser mwyaf anodd yw pan ydych angen seibiant ac mae’r plant yn mynd at berson gwahanol bob tro, ac rydych yn teimlo’n euog. Mae Mockingbird yn golygu cysondeb gyda phobl maent yn eu hadnabod.”
Mae croeso i bawb yn Mockingbird, o blant sy’n byw gyda gofalwyr maeth yn hirdymor i ofalwyr maeth newydd gyda’u plant eu hunain. Mae pobl ifanc sy’n gadael gofal hefyd yn rhan o’r teulu Mockingbird.
“Pan oedd teulu lleol newydd yn y camau cyntaf o ystyried dod yn deulu maeth, cwrddais â nhw ar-lein ac fe wnaeth fy mab siarad â’u mab nhw am faethu. Maent bellach yn ofalwyr maeth wedi’u cymeradwyo ac wedi ymuno â’n clwstwr. Maent bellach yn gofalu am blentyn maeth sydd â brawd/chwaer hefyd yn ein grwp ac maent wedi gallu cwrdd.”
Cafodd Sarah, gofalwr maeth newydd ei chymeradwyo fel gofalwr maeth yn ystod y pandemig, a dywedodd
“Rwy’n falch iawn o gael Mockingbird fel gofalwr maeth newydd. Mae pobl profiadol ar gael i siarad â chi. Gallwn siarad am y plant a chael sicrwydd, dealltwriaeth a chanmoliaeth gan bobl sy’n deall”
Mae’r drws “Maethu Cymru” wedi cael ei wneud gan fachgen oedd yn gadael gofal yn ymarfer ei sgiliau prentisiaeth saernïo.
Mae Maethu Cymru Sir y Fflint ar fin lansio 3ydd clwstwr mockingbird ar gyfer gofalwyr maeth awdurdod lleol yn ardal Glannau Dyfrdwy.
Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:
“Mae’r model cefnogi arloesol hwn wedi profi i fod yn llwyddiannus ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer teuluoedd maeth. Mae’n bwysig bod gan deuluoedd rwydweithiau cymorth, ac mae’r rhaglen Mockingbird o fewn Sir y Fflint yn galluogi’r gofalwyr ynghlwm i rannu eu profiadau gydag eraill ac i blant a phobl ifanc gymdeithasu. Gwerthfawrogir hyn gan bawb.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i www.maethucymru.siryfflint.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am raglen Mockingbird y Rhwydwaith Maethu, ewch i https://www.thefosteringnetwork.org.uk/mockingbird