Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Published: 13/10/2021

Bydd aelodau’r Cabinet yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor a nodir ym Mesurau Adrodd Cyngor Sir y Fflint 2020/2021. Yn ystod eu cyfarfod ddydd Mawrth19 Hydref bydd gofyn iddyn nhw gymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/2021.

Mae’r adroddiad yn darparu asesiad i’r cyhoedd ac i fudd-ddeiliaid ehangach o berfformiad y Cyngor yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn ofyniad statudol dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) (2009) (y Mesur).

Mae gan y Cyngor lawer i’w ddathlu mewn perthynas â’r cynnydd yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor, yn cynnwys:

  • Yn ystod y cyfnod o atal addysg statudol, rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020 llwyddwyd i droi ysgolion yn ganolfannau ar gyfer plant diamddiffyn a phlant gweithwyr allweddol
  • Llwyddodd yr ysgolion uwchradd i ddarparu trefniadau diwygiedig ar gyfer graddau TGAU a Safon Uwch yn 2021
  • Siop fwyd Well-Fed – siop fwyd deithiol a chymorth brys
  • Darparu technoleg ac atebion busnes i gefnogi gwasanaethau'r Cyngor i ymateb i’r pandemig byd-eang
  • Codi dwy fferm solar ar safleoedd tir llwyd yn y Fflint a Chei Connah
  • Gweithredu Meicro-Ofal, gyda 12 o ofalwyr meicro yn darparu gwasanaethau yn y sir
  • Dangos ein hymrwymiad i ddod â thrais dynion yn erbyn merched i ben drwy dderbyn achrediad Rhuban Gwyn
  • Gweithredu Model Cefnogi Gofalwyr Maeth – ‘Mockingbird’
  • Cynnydd gydag estyniadau Marleyfield House
  • Cwblhau ac agor Cyfleuster Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen
  • Cronfa mantais gymunedol Partneriaeth Trin Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru
  • Prif gyflogwr y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu ar ran chwe awdurdod lleol y gogledd
  • Iechyd Galwedigaethol yn cefnogi’r brechu yn Ysbyty'r Enfys, Glannau Dyfrdwy

Meddai Colin Everett, y Prif Weithredwr:

“Mae Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/2021 yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein gweithlu, yn enwedig yn wyneb heriau digynsail y deunaw mis diwethaf. 

“Rydym ni’n parhau i wneud cynnydd da yn erbyn Blaenoriaethau'r Cyngor."

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

“Mae 2020/21 wedi bod yn flwyddyn eithriadol i awdurdodau lleol wrth i ni ymdopi gyda bygythiadau a heriau’r pandemig byd-eang yn ogystal â pharhau i wasanaethu ein cymunedau.

“Dw i’n falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i berfformio’n dda yn ystod blwyddyn heriol iawn. Ar y cyfan roedd ein perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol, gyda thargedau 67% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u cyrraedd neu ragori arnynt, gyda 48% arall wedi dangos gwelliant neu wedi aros yn sefydlog.

“Pan oedd y pandemig byd-eang ar ei anterth roedd ein timau yn cefnogi dros 500 o breswylwyr a oedd yn gwarchod eu hunain, gan ddarparu 46,000 o brydau bwyd – mae hynny’n anhygoel. Cafodd busnesau hefyd gymorth drwy’r Grantiau Cymorth i Fusnesau a’r Rhyddhad Manwerthu – talwyd £50.9 miliwn i fusnesau yn ogystal â rhyddhad manwerthu, hamdden a lletygarwch uwch o £16.3 miliwn i 1265 o fusnesau. Cyflawniad aruthrol i bawb a oedd yn rhan o hyn.

“Mae’r adroddiad cynhwysfawr hwn yn asesiad gwych o’n perfformiad yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor."