Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Parc Gwepra a Dyffryn Maes Glas wedi eu henwi fel dau o fannau gwyrdd gorau’r wlad
Published: 14/10/2021
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd.
Bydd y baneri yn hedfan yn Nyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra i gydnabod eu cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o ansawdd gwych.
Mae Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra yn llawn hanes a bywyd gwyllt. Maent wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer hamdden pobl leol gan gefnogi lles trwy gydol y pandemig, mae ganddynt enw da o fewn y gymuned leol ac mae derbyn y Wobr hon ar gyfer 2021/22 yn anrhydedd.
Mae Parc Gwepra yn 160 erw o fan gwyrdd, yng nghanol Cei Connah, Sir y Fflint, ac mae’n lleoliad unigryw gyda’i amrywiaeth o gynefinoedd a daeareg. Mae nodweddion y parc yn cynnwys; Gerddi’r Hen Neuadd, Pwll Pysgota, Ffrwd a Rhaeadr, a Chastell Ewlo i’r cyhoedd eu darganfod.
Lleolir Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, ac mae’n cynnwys 70 erw o hanes diwydiannol. Yn hanesyddol, roedd Dyffryn Maes Glas yn cyflogi cannoedd o bobl yn ei ffatrïoedd copr a’i felinau cotwm, sydd erbyn hyn yn fannau gwyrdd agored, gwych. Mae’r Dyffryn yn gartref i nifer o henebion rhestredig ac yn le delfrydol i fywyd gwyllt. Mae Parc Gwepra a Dyffryn Maes Glas yn Barciau o safon y mae Sir y Fflint yn falch ohonynt, ac maen nhw’n hygyrch i’r gymuned eu harchwilio a’u mwynhau.
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
“Mae’n anrhydedd unwaith eto i ni ennill gwobr y Faner Werdd ar gyfer Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra. Mae mannau naturiol Sir y Fflint wedi disgleirio fel adnoddau gwerthfawr o ansawdd uchel ar gyfer pobl leol. Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a staff sy’n gweithio’n galed i gynnal y safonau uchel hyn a chaniatáu i ni chwifio’r ‘Faner Werdd’ yn ein parciau. Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt a nodweddion hanesyddol y parciau hyn o ddiddordeb mawr i breswylwyr a thwristiaeth ac maen nhw’n glod i Sir y Fflint. Mwynhewch y mannau gwyrdd lleol sy’n werth eu gweld wrth i’r tymhorau newydd ac i ddarganfod mwy am ein treftadaeth lleol yn ddiogel.”
Dywedodd Gwladys Harrison, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas;
“Mae staff, gwirfoddolwyr a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ymfalchïo yn Nyffryn Maes Glas. Dyma yw trysor Sir y Fflint ac rydym yn falch o gyflawni’r wobr hon sy’n adlewyrchu ar safon y man naturiol hwn. Hoffem annog y gymuned i gyd yr Hydref hwn i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau ein mannau naturiol lleol yn ddiogel. “
Mae 248 o barciau a mannau gwyrdd ar draws y wlad wedi cael Gwobr flaenllaw y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig i erddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd.
Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.
Dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: “Mae mannau gwyrdd yn hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol a trwy gydol y pandemig, rydym wedi gweld pa mor bwysig mae’r mannau hyn wedi bod i gymunedau lleol.
“Mae gan Gymru dros draean safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU o hyd ac mae’n rhagorol gweld mwy o fannau yng Nghymru yn derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.
“Mae’r tirweddau hyn yn chwarae rhan hanfodol yn cyflwyno ecosystemau cyfoethog a chymunedau bywiog a chydnerth, ac rwyf yn llongyfarch pob safle am ddarparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol, drwy’r flwyddyn ar gyfer pobl yng Nghymru.”
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus:
“Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd da i’n cymunedau. Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.”
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru