Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae Growth Track 360 yn croesawu’r datblygiadau ar wasanaethau trenau
Published: 20/10/2021
Mae Growth Track 360 yn croesawu’r datblygiadau ar wasanaethau trenau i Fanceinion ac yn annog y Canghellor i fuddsoddi £20 miliwn i wella'r cysylltiad rheilffyrdd hanfodol rhwng Gogledd Cymru, Swydd Gaer, Cilgwri a Lerpwl.
Mae arweinwyr busnesau ac awdurdodau lleol o Ogledd Cymru, Cilgwri, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn y bartneriaeth Growth Track 360 wedi croesawu'r cytundeb rhwng Transport for the North (TfN) a Llywodraeth y DU ar amserlen reilffyrdd newydd a gwell ar gyfer Manceinion o fis Rhagfyr 2022 a fydd yn gweld trenau uniongyrchol yn parhau i gysylltu Maes Awyr Manceinion ag ardaloedd Gogledd Cymru, Caer a Lerpwl.
Meddai'r Cynghorydd Ian Roberts, Is-gadeirydd Growth Track 360 ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Ymatebodd Growth Track 360 yn frwd ym mis Mawrth i'r ymgynghoriad ar wasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol i Fanceinion ac yn ôl, yn enwedig i'w faes awyr, sy'n borth hedfan allweddol i ogledd Cymru a Swydd Gaer. Rydym wrth ein boddau gyda'r newyddion am y cynnydd sy'n cael ei wneud a byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r holl bartïon perthnasol wrth i'r amserlen drenau derfynol gael ei mireinio.
“Bydd GT360 yn gweithio gyda Transport for the North i chwilio am y buddsoddiadau seilwaith a fydd yn galluogi mynediad gwell ar reilffyrdd i ganol Manceinion a'r Maes Awyr ar gyfer pob rhan o'r Gogledd gan gynnwys Gogledd Cymru ac ardal drawsffiniol Merswy Dyfrdwy.”
Meddai Ashley Rogers, Cyfarwyddwr Masnachol Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy:
“Mae'r newyddion calonogol am y gwelliannau i gysylltiadau trên i Fanceinion yn pwysleisio'r angen am welliannau mawr i gapasiti rheilffyrdd yn ein rhanbarth er mwyn gwella cyflymder, amlder a dibynadwyedd trenau. Dyma pam mae Growth Track 360 yn galw o'r newydd ar Ganghellor y Trysorlys am gronfa ddatblygu gwerth £20 miliwn dros dair blynedd i wneud cynnydd cyflym a chadarn ar dri phrosiect rheilffordd allweddol:
1. Trawsnewid Wrecsam i Lerpwl: Cludiant yr unfed ganrif ar hugain ar hyd coridor o ddiwydiannau o'r radd flaenaf;
2. Prif linell Arfordir Gogledd Cymru: Datblygu ynni carbon isel ac ehangu diwydiant twristiaeth dramor a Phrydeinig yn gynaliadwy mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol; a
3. Moderneiddio gorsaf Caer: Porth milflwyddol ar gyfer dinas milenia.”