Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
#GwarchodParchuMwynhau – Ymgyrch Bang 2021
Published: 28/10/2021
Gyda dathliadau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt yma, mae Heddlu Gogledd Cymru unwaith eto’n ymuno â phartneriaid gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint er mwyn sicrhau fod pawb yn mwynhau ond mewn modd diogel.
Mae cerfio pwmpenni, gwisg ffansi a gwylio tân gwyllt yn aml yn uchafbwynt yng nghalendr y teulu. Fodd bynnag, nid ydy cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn hwyl i bawb a gall llawer o bobl yn ein cymunedau deimlo’n ofidus, yn ofnus ac yn bryderus yn ystod y cyfnod hwn.
Gyda lleiafrif yn defnyddio Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fel esgus i gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Heddlu Gogledd Cymru yn erfyn ar rieni a gofalwyr i gymryd sylw o gynlluniau eu plant er mwyn sicrhau eu bod yn ymddwyn yn gyfrifol ac nid yn torri’r gyfraith. Gall ymddwyn yn wrthgymdeithasol a throseddol effeithio ar fywyd un ifanc, ynghyd â’r rhai sy’n cael eu heffeithio oherwydd eu hymddygiad.
Fel arfer, mae hwn yn gyfnod prysur iawn i'r gwasanaethau brys. Bydd ein swyddogion, swyddogion cefnogi cymuned a’r heddlu gwirfoddol yn parhau i fod yn weladwy yn ein cymunedau yn ystod y dathliadau a chyn hynny er mwyn cynorthwyo i atal a chanfod achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn.
Cyngor i bobl ifanc sy’n mynd i chwarae Cast neu Geiniog:
- Fe ddylai plant ifanc fod gydag oedolyn pan fyddant yn mynd i chwarae cast neu geiniog
- Cynlluniwch lle rydych yn mynd a dywedwch wrth bobl i ble ‘da chi’n mynd
- Peidiwch â thorri trwy rywle i arbed amser
- Gwnewch yn siwr eich bod yn aros mewn lle gyda goleuadau stryd ac ewch â fflachlamp gyda chi
- Peidiwch byth â mynd i dy rhywun nad ydych yn eu nabod
- Peidiwch â chnocio drws ty os oes arwydd ‘Dim cast neu geiniog’ i’w weld
- Peidiwch â siarad â phobl ddieithr ar y stryd
- Parchwch y rhai sydd ddim eisiau cymryd rhan
- Byddwch yn ofalus nad ydych yn dychryn pobl fregus, yn enwedig yr henoed
- Gwnewch yn siwr fod pobl yn gallu eich gweld bob amser; gallai fod yn syniad da gwisgo tâp adlewyrchol ar eich gwisg ffansi.
- Byddwch yn ofalus wrth groesi'r ffordd
- Cofiwch yr ystyrir taflu wyau a blawd at eiddo fel difrod troseddol – a bydd yr heddlu yn ymdrin ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y modd priodol
- Mae’n drosedd gwerthu neu roi tân gwyllt i unrhyw un o dan 18 oed. Gallwch gael dirwy neu gyfnod yn y carchar am brynu neu ddefnyddio tân gwyllt yn anghyfreithlon
- Mae’n anghyfreithlon defnyddio tân gwyllt mewn man cyhoeddus