Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad ar adolygu’r cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yn Sir y Fflint
Published: 08/11/2021
Ar hyn o bryd mae gan gynghorau yng Nghymru bwerau disgresiwn i godi, neu amrywio premiwm treth y cyngor hyd at 100% uwchben y gyfradd safonol ar gyfer treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.
Fe gyflwynodd y Cyngor gynllun premiwm lleol yn 2017 ac ers hynny mae premiwm treth y cyngor o 50% wedi cael ei godi ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn Sir y Fflint.
Mae’r Cyngor rwan yn ymgynghori gyda’r cyhoedd fel rhan o’r broses o adolygu’r cynllun premiwm presennol a lefel y premiwm.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:
“Mae’r disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol i godi premiwm gyda’r bwriad o fod yn offer i helpu awdurdodau lleol i ddod â chartrefi gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd i roi cartrefi diogel, saff a fforddiadwy ac i wella cynaliadwyedd ein cymunedau lleol.
“Fel rhan o’r broses o adolygu’r cynllun, rydym wedi ymrwymo i roi’r cyfle i’r cyhoedd ehangach i gael mynegi eu barn ar sut ddylai unrhyw gynllun premiwm treth y cyngor diwygiedig yn y dyfodol weithio.”
Os hoffai preswylwyr gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn mae holiadur byr ar-lein ar gael tan 5pm ar 6 Rhagfyr 2021 ar www.siryfflint.gov.uk/PremiwmTrethyCyngor.
Os na allwch gael mynediad i’r dogfennau ar-lein gallwch ymweld ag un o’r Canolfannau Sir Y Fflint Yn Cysylltu neu lyfrgell leol a defnyddio’r cyfrifiaduron sydd ar gael am ddim i’r cyhoedd. Mae staff yn ein Canolfannau Sir Y Fflint Yn Cysylltu ar gael i’ch cefnogi i lenwi’r arolwg ar-lein os ydych angen cymorth.