Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Galwyr Digroeso Amheus
Published: 03/12/2021
Mae Safonau Masnach Sir y Fflint wedi cael gwybod am nifer o alwyr digroeso amheus yn Sir y Fflint dros y dyddiau diwethaf. Maen nhw wedi bod yn honni eu bod yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint gan geisio cael mynediad i gartrefi pobl. Maen nhw’n honni eu bod yn edrych ar inswleiddio a boeleri. Rydym yn falch o ddweud eu bod wedi methu cael mynediad yn yr achosion a adroddwyd eisoes.
Yn y cyfnod Covid hwn, ni fyddwch yn cael ymweliadau dirybudd gan bobl sy’n mynnu bod angen cael mynediad i’ch cartref. Dywedwch wrthynt am adael a rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru ar 111.