Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnyrch cynaliadwy rhad ac am ddim ar gyfer y mislif i blant a merched ifanc Sir y Fflint

Published: 07/01/2022

Flintshire Facebook Post.pngBydd plant a merched ifanc sy’n mynychu ysgolion Sir y Fflint yn gallu cael cynnyrch cynaliadwy rhad ac am ddim ar gyfer y mislif yn syth i’w drws o fis Ionawr 2022, diolch i bartneriaeth newydd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Hey Girls, cwmni cynnyrch mislif sy’n seiliedig yn y DU sydd wedi ennill gwobrau. Mae’r rhaglen wedi’i datblygu gyda chyllid Llywodraeth Cymru i hyrwyddo urddas mislif ar draws Cymru.

Hyd yma, mae Hey Girls wedi dosbarthu 1.7 miliwn o gynnyrch mislif trwy eu menter pecynnau cartref. Yn ogystal â Chyngor Sir y Fflint, mae cynghorau eraill ym Mhowys, Sir Ddinbych, Fife, Falkirk a Chaeredin a Choleg Inverness wedi manteisio ar wasanaeth pecyn cartref Hey Girls ar gyfer y mislif.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd (Partneriaethau) Cyngor Sir y Fflint a'r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Christine Jones:

“Mae hon yn fenter wych – rwy’n rhoi fy nghefnogaeth lawn i’r ffaith y bydd gan ein dysgwyr ifanc fynediad at y cynnyrch glanweithiol hyn yn rhad ac am ddim.  Mae’r mater sensitif hwn yn aml yn bwnc anodd a “thabw”, a gall merched ifanc yn enwedig deimlo stigma a theimlo’n ddiamddiffyn.  

“Bydd gallu archebu cynnyrch rhad ac am ddim ar-lein, wedi’u dosbarthu i’w cartref, yn sicrhau nad ydynt yn methu unrhyw amser ysgol, a gallant gymryd rhan lawn mewn cymdeithas.”

Nid yw cynnyrch Hey Girls yn cynnwys unrhyw gemegion, maent yn dod o ffynonellau cyfrifol ac wedi’u gwneud o ddeunyddiau ecogyfeillgar gan gynnwys poteli dwr wedi’u hailgylchu, cotwm organig a bambw cynaliadwy. 

Dywedodd Celia Hodson, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hey Girls: 

“Mae cynnyrch mislif yn angenrheidiol, ond maen nhw’n ddrud. Gall pobl sydd ar gyllidebau tynn orfod blaenoriaethu pethau eraill, sy’n golygu na fydd ganddynt gynnyrch mislif cywir, heb ddigon o gynnyrch mislif, neu heb unrhyw gynnyrch mislif o gwbl. 

“Mae cynyddu mynediad at gynnyrch mislif yn bwysig iawn. Gall cynnyrch am ddim helpu i gadw pobl yn yr ysgol, gwella canolbwyntio, annog cyfranogiad mewn chwaraeon, a chefnogi iechyd da. Maen nhw’n atal pobl rhag gorfod gwneud dewisiadau anodd – gwisgo’r cynnyrch anghywir, neu gynnyrch o safon is, neu wisgo cynnyrch am gyfnod hwy nag sy’n lân neu diogel. 

“Yn Hey Girls, rydym ni’n credu bod mynediad at gynnyrch o safon ar gyfer mislif yn hawl, nid yn fraint. Ni ddylai unrhyw un orfod dewis rhwng gwaedu ar eu trowsus neu fwyta cinio. Mae cynnyrch rhad ac am ddim yn helpu i roi diwedd ar dlodi mislif, a hyrwyddo cydraddoldeb mislif.”

Dyma’r hyn sydd gan rai myfyrwyr i’w ddweud:

“Dwi’n meddwl fod padiau y mae modd eu hailddefnyddio yn dda gan eu bod yn amgylcheddol gyfeillgar ac yn lleihau gwastraff plastig.  Dwi hefyd yn meddwl eu bod yn well ac yn fwy cyfforddus.”

“Dwi’n credu y dylai pawb allu cael padiau y mae modd eu hail ddefnyddio a hefyd padiau untro.  Mae’r syniad o bostio cynnyrch i’ch cartref yn dda. Mae’n bosibl y gall pobl deimlo’n swil wrth ofyn am badiau a byddai hyn yn tynnu llai o sylw.”

“Dwi’n credu fod cynnyrch mislif yn eitem hanfodol, nid rhywbeth moethus, a dylai pob merch a dynes allu eu cael.”

Mae Hey Girls yn fenter gymdeithasol ar gyfer cynnyrch mislif. Ar gyfer pob cynnyrch maen nhw’n ei werthu, maen nhw’n cyfrannu’r cynnyrch cyfwerth i rhywun sydd mewn angen. Ers i’r cwmni buddiannau cymunedol gael ei sefydlu yn 2018, mae Hey Girls wedi cyfrannu mwy na 19 miliwn o gynnyrch mislif. Ei nod yw helpu i ddileu tlodi mislif, galluogi mynediad gwell at gynnyrch mislif o safon i bawb a dileu’r stigma a chwalu’r mythau a’r tabws sy’n ymwneud â’r mislif.

Os wyt ti rhwng 8 ac 18 oed a dy fod yn mynd i’r ysgol yn Sir y Fflint, galli fynd i'r wefan Hey Girls i wneud cais am gynnyrch mislif rhad ac am ddim.