Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ysgolion 

Published: 10/01/2022

Mae Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Sir y Fflint wedi darparu’r diweddariad canlynol ar y sefyllfa yn ysgolion y Cyngor ar ddechrau Tymor y Gwanwyn. 

Mae staff ysgolion Sir y Fflint wedi dychwelyd i’w gwaith heddiw am y ddau ddiwrnod cynllunio a ganiatawyd gan Lywodraeth Cymru. Pwrpas y dyddiau cynllunio yw galluogi Penaethiaid i adolygu argaeledd eu gweithlu a phenderfynu a yw’n bosib iddynt ddarparu dysgu wyneb yn wyneb yn ddiogel ar gyfer yr holl ddisgyblion neu a fyddai absenoldebau staffio yn golygu bod rhaid i rai dysgwyr ddechrau’r tymor newydd trwy ddull dysgu cyfunol.  

Mae’r dyddiau cynllunio hefyd yn rhoi’r cyfle i ysgolion ail edrych ar eu hasesiadau risg a gwneud unrhyw newidiadau i amgylchedd yr ysgol er mwyn sicrhau bod mesurau amddiffyn Covid-19 cadarn ar waith, yn seiliedig ar y cyngor gan Lywodraeth Cymru y dylent fod yn gweithredu ar y lefel uchaf ar y Fframwaith Rheoli Heintiau.  Gall hyn gynnwys ad-drefnu dodrefn er mwyn sicrhau cadw pellter corfforol, ail gyflwyno systemau unffordd, llunio cynlluniau eistedd, cynllunio ar gyfer gwasgaru amseroedd cychwyn a gorffen a threfnu disgyblion mewn grwpiau cyswllt ar wahân.  Bydd pob ysgol yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar eu hasesiad risg unigol ac yn hysbysu rhieni/gofalwyr a disgyblion yn uniongyrchol.  Pwrpas arall i’r diwrnod cynllunio yw rhoi amser i athrawon baratoi cynlluniau gwersi petai penderfyniad yn cael ei wneud i atal dysgu wyneb yn wyneb a dychwelyd at ddull dysgu cyfunol. 

Mae holl Benaethiaid Sir y Fflint wedi hysbysu’r Cyngor o’u sefyllfa staffio gyfredol heddiw yn barod ar gyfer dychweliad disgyblion i’r ysgol ddydd Llun 10 Ionawr.   Er bod rhai ysgolion ag absenoldebau staff sylweddol o hyd, yn seiliedig ar yr adroddiad ar y sefyllfa heddiw, bydd holl ysgolion Sir y Fflint ar agor i bob disgybl ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb ddydd Llun.  Fodd bynnag, mae’n rhaid cydnabod y gall y sefyllfa hon newid yn gwbl fyr rybudd, o ystyried yr hinsawdd sydd ohoni gyda’r nifer uchel o achosion positif a’i bod yn bosib i ysgol fethu â gweithredu’n ddiogel, gan arwain at orfod symud rhai disgyblion i ddysgu cyfunol.  Cytunir ar hyn bob amser ag Adran Addysg y Cyngor a chaiff rhieni/gofalwyr eu cynghori cyn gynted â phosib.  Y nod yw sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r dull dysgu cyfunol yn cael ei weithredu’n unig fel yr opsiwn olaf un ac am y cyfnod byrraf posib. 

Fe wnaeth Mrs Homard gyfarfod â’r holl Benaethiaid ddydd Iau 6 Ionawr ac estyn ei diolch personol a diolch y Cyngor, i bob arweinydd ysgol a’u staff am eu hymdrechion i ailagor ysgolion i ddisgyblion ddydd Llun, er gwaethaf heriau parhaus y pandemig, a dymuno’n dda iddynt a chymunedau eu hysgolion ar ddechrau Tymor newydd y Gwanwyn.