Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymorth i Fusnesau Ionawr 2022

Published: 13/01/2022

Money Fotolia_40586732_XS[1].jpg

Wedi i ragor o gyfyngiadau gael eu cyflwyno o 26 Rhagfyr 2021 er mwyn helpu i reoli lledaeniad y coronafeirws, mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi busnesau lleol y mae’r newidiadau hyn wedi effeithio arnyn nhw.

Mae’r rownd ddiweddaraf o grantiau wedi eu llunio i ddarparu cymorth ychwanegol i fusnesau sy’n gweithio yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu, sy’n derbyn bil ardrethi busnes ar gyfer eiddo maen nhw’n ei feddiannu sydd â gwerth ardrethol hyd at £500,000. 

Bydd gan fusnesau cymwys hawl i dderbyn taliad grant o:

  • £2,000 ar gyfer busnesau cymwys ym maes lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu sydd â Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ac sy’n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000. 
  • £4,000 ar gyfer busnesau cymwys ym maes lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu sy’n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. 
  • £6,000 ar gyfer busnesau cymwys ym maes lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu sy’n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £500,000.  

Mae’r cynlluniau hefyd ar agor i fusnesau’r gadwyn gyflenwi yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu sydd wedi gweld gostyngiad o 40% yn eu trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau diweddaraf.

Mae’r Cyngor hefyd yn gweinyddu Cronfa Ddewisol i gefnogi busnesau sydd ddim yn talu ardrethi busnes. Mae grant o £500 ar gael i fusnesau ym maes lletygarwch, twristiaeth, manwerthu a busnesau cysylltiedig yn eu cadwyn gyflenwi sydd ddim yn cyflogi unrhyw un ar wahân i’r perchennog, ac sydd heb eiddo. Mae grant o £2,000 ar gael i fusnesau ym maes lletygarwch, twristiaeth, manwerthu a busnesau cysylltiedig yn eu cadwyn gyflenwi sydd heb eiddo ond sy’n cyflogi staff drwy gynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) (yn ogystal â’r perchennog).

Mae’r Cynllun Ardreth Annomestig bellach ar agor ar gyfer ceisiadau ac mae’r Cynllun yn ôl Disgresiwn yn agor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 17 Ionawr. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5pm ar 14 Chwefror 2022.   Os yw eich busnes yn gymwys, gofynnir i chi lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Rydym yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth weinyddu pecyn cymorth diweddaraf Llywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i brosesu ceisiadau grant cyn gynted â phosibl er mwyn darparu cymorth ariannol hanfodol i fusnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, gyda grantiau gwerth hyd at £6,000.”