Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU

Published: 13/01/2022

Ddydd Mawrth 18 Ionawr 2022 bydd gofyn i Aelodau Cabinet Sir y Fflint gymeradwyo cynigion i gyflwyno ceisiadau i ail gylch cyllido Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU. 

Nod y Gronfa Codi’r Gwastad yw gwella bywyd bob dydd ar draws y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio cludiant lleol a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth. Mae’r gronfa o £4.8 biliwn wedi’i dylunio i gael effaith weledol a sylweddol ar bobl a lleoedd ac i gefnogi adferiad economaidd. 

Mae Sir y Fflint yn cynnig datblygu dau gais i Lywodraeth y DU fel rhan o ail gylch cyllido’r rhaglen ar ddechrau 2022. Bydd y ceisiadau hyn yn canolbwyntio ar gymunedau arfordirol Sir y Fflint er mwyn: gwella amodau ar gyfer busnesau, lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; defnyddio asedau treftadaeth unwaith eto; ac annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio’r ardal arfordirol. 

Bydd cais o £20 miliwn ar gyfer bob etholaeth seneddol yn y sir. 

Meddai’r Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae ceisiadau’r Gronfa Codi’r Gwastad yn cyd-fynd â’r uchelgeisiau, y strategaethau a’r buddsoddiadau presennol sydd wedi’u dylunio i wella isadeiledd a chanlyniadau cymunedau arfordirol ac felly dylid eu hystyried yn barhad o’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud. Rydym ni’n gobeithio y bydd Cronfa Codi’r Gwastad yn ein helpu ni i sefydlu’r amodau ffisegol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r dirywiad economaidd a brofir gan gymunedau arfordirol.”