Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Croeso i dy bleidlais!

Published: 24/01/2022

WTYV _Jan_2022_ IG_Welsh_3.jpg

Yng Nghymru mae unigolion 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol. Mae etholiadau lleol y Cyngor Sir a’r cynghorau tref a chymuned yn cael eu cynnal ddydd Iau, 5 Mai 2022.

Mae ar bob un ohonom ni eisiau gweld newid cadarnhaol yng Nghymru. Ond, er mwyn i ddemocratiaeth weithio i bawb, mae’n rhaid i bobl ifanc Cymru gymryd rhan. 

Dyna pam rydym ni’n ymuno â chynghorau eraill i alw ar bobl ifanc Cymru i gymryd rhan mewn democratiaeth a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. 

Meddai Swyddog Canlyniadau Sir y Fflint, Neal Cockerton: 

“Os wyt ti’n 16 oed neu’n hyn, fe elli di rwan ddweud dy ddweud am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru drwy gymryd rhan a defnyddio dy bleidlais. 

“Mae democratiaeth yn effeithio ar bopeth o’n cwmpas. Felly, beth bynnag wyt ti’n teimlo’n angerddol amdano, mae pleidleisio yn ystod yr etholiadau cyngor nesaf yn ffordd dda o gymryd rhan.” 

I ddysgu mwy am sut i wneud defnydd da o dy farn, dos i: llyw.cymru/dweud-dy-ddweud.

Mae yna hefyd wybodaeth ar gael yma.

Er mwyn dweud dy ddweud, a gwneud yn siwr bod rhywun yn dy glywed, mae’n rhaid i ti gofrestru i bleidleisio. Mi fedri di wneud hynny yn gyflym iawn ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio (bydd arnat ti angen dy rif Yswiriant Gwladol).

Fe ddylet ti fod wedi derbyn dy rif Yswiriant Gwladol ychydig fisoedd cyn dy ben-blwydd yn 16. Bydd yn rhaid i ti ddarparu dy rif Yswiriant Gwladol dan amgylchiadau eraill hefyd, fel pan fyddi di’n cael gwaith, ac felly mae’n bwysig ei gadw'n saff. 

Os oes arnat ti angen cymorth i ddod o hyd i dy rif Yswiriant Gwladol mi fedri di fynd i gov.uk/lost-national-insurance-number neu ffonio’r llinell gymorth ar 0300 200 3500.