Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Galwyr Digroeso Sir y Fflint 

Published: 31/01/2022

SGAM.jpg

Mae Safonau Masnach Sir y Fflint yn ymwybodol bod masnachwyr twyllodrus yn galw’n ddigroeso i eiddo yn ardal Cei Connah, yn cynnig gwneud gwaith toi. 

Mae'r masnachwyr hyn yn curo ar ddrysau yn ddirybudd ac yn dweud wrth drigolion fod ganddynt lechi rhydd a theils crib neu namau eraill ar eu toeau ac y gallant ddechrau'r gwaith ar unwaith am swm o arian a delir ymlaen llaw. O bryd i'w gilydd, gall y masnachwr roi pwysau ar ddeiliad y ty a'i ruthro i gytuno i dalu a throsglwyddo'r arian. 

Mae defnyddwyr yn talu symiau mawr o arian, ac eto mae'r masnachwr yn gadael ar ôl dim ond cwpl o oriau, heb wneud y gwaith y cytunwyd arno. Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud o ansawdd isel iawn ac mewn rhai achosion, bydd angen cynnal atgyweiriadau ar y gwaith hwnnw.

Cofiwch nad oes rhaid i chi ateb y drws na gadael i unrhyw un ddod i mewn i'ch cartref, ac mae gennych yr hawl i ofyn iddynt adael. Cyngor Safonau Masnach Sir y Fflint yw peidio ag ymrwymo i gontractau ag unrhyw un sy'n galw gyda chi yn ddigroeso. 

Os ydych ch o’r farn bod angen gwneud atgyweiriadau i'ch cartref, gofynnwch i nifer o fasnachwyr roi dyfynbris am y swydd. Mae modd dod o hyd i fasnachwyr ag enw da yn ‘Buy With Confidence’, lle mae'n rhaid i bob masnachwr gael ei archwilio gan eu gwasanaeth Safonau Masnach lleol i gael eu derbyn ar y cynllun.  I ddod o hyd i fasnachwr, ewch i www.buywithconfidence.gov.uk. 

Os ydych yn ymwybodol o fasnachwr twyllodrus yn gweithredu yn yr ardal neu'n meddwl eich bod wedi bod yn ddioddefwr, fe'ch anogir i roi gwybod i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133. Os oes masnachwr twyllodrus yn eich eiddo ac yn gwrthod gadael neu wedi mynd â’ch arian ac yn dal i fod yn yr ardal, dylech ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 999. 

Gall Safonau Masnach Sir y Fflint roi sticer ‘dim galwyr digroeso’ i chi yn rhad ac am ddim, drwy gysylltu â nhw ar 01352 703181. 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

 “Mae’n destun pryder bod masnachwyr fel hyn yn camarwain defnyddwyr yn y modd hwn.  Mae'r gwaith y maent yn ei wneud yn aml o ansawdd gwael iawn, yn rhy ddrud ac mewn rhai achosion, yn ddiangen. Byddwn yn annog trigolion i beidio â defnyddio gwasanaethau galwyr digroeso. Os bydd busnes o’r fath yn cysylltu â nhw, dylid adrodd unrhyw fanylion i Wasanaeth Safonau Masnach y Sir.”