Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Gwerth Cymdeithasol

Published: 11/02/2022

Pan fydd yn cyfarfod ar 15 Chwefror, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed wrth gyflwyno’r rhaglen gwerth cymdeithasol. 

Mae gan y Cyngor ymrwymiad i ddarparu gwerth cymdeithasol gwell drwy’r gwaith mae’n ei wneud; sy’n golygu cael buddion gwell i gymunedau Sir y Fflint o ganlyniad i’w wariant a’i wasanaethau.  Mae’r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i raglen barhaus o waith gwerth cymdeithasol drwy wneud swydd y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol yn un barhaol.

Mae’r union werth cymdeithasol a gyflawnwyd wedi arwain at ganlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol arwyddocaol yn lleol yn Sir y Fflint. Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol a gofnodwyd rhwng Ionawr a Medi 2021 gwelwyd:

• Dros £1.6m o wariant yn y gadwyn gyflenwi leol i gefnogi twf economaidd;

• 37 o gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer preswylwyr lleol (cyfleoedd newydd a chyfleoedd a gynhelir);

• Dros 226 awr o wirfoddoli wedi eu buddsoddi i gefnogi cynlluniau yn y gymuned leol; a

• Darparwyd dros 190 wythnos o hyfforddiant prentisiaethau.

Dim ond rhai o’r buddion niferus rydym wedi eu sicrhau drwy’r rhaglen yn ystod y cyfnod adrodd hwn yw’r rhain.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyllid a Gwerth Cymdeithasol Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Johnson:

“Bydd darparu gwerth cymdeithasol uwch o fudd i bobl ar draws Sir y Fflint. Rydym wedi gweld yr effaith gadarnhaol mae wedi ei chael hyd yma ac rydym eisiau adeiladu ar ein llwyddiannau. Rwy’n falch fod Sir y Fflint yn cael ei chydnabod fel arweinydd yng Nghymru o ran Gwerth Cymdeithasol. 

“Mae Gwerth Cymdeithasol yn gynllun allweddol er mwyn helpu ein Cyngor i ddangos sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei rhoi ar waith ar lawr gwlad.”