Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofrestrwch i bleidleisio

Published: 10/02/2022

AdobeStock Election tick.jpegPeidiwch â cholli eich hawl i bleidleisio a bod yn rhan o etholiadau’r Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned sy’n digwydd ddydd Iau, 5 Mai.

Mae pleidleisio hefyd yn sicrhau eich bod yn cael rhoi eich barn ar faterion y dydd a gallai bod ar y gofrestr etholwyr gynnal eich statws credyd.

Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau sydd ar y gorwel, rhaid i'ch enw fod ar y gofrestr etholwyr.  Edrychwch ar y llythyr a anfonwyd i’ch cartref i sicrhau fod pawb sydd â hawl i bleidleisio ar y rhestr.

Mae pawb yn gyfrifol am gofrestru eu hunain - os nad yw eich enw chi neu enw unigolyn arall sy’n byw yn eich cyfeiriad ar y rhestr, yna nid ydynt wedi cofrestru. 

I gofrestru, ewch i gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Hefyd, gallwn ddarparu ffurflenni cais papur ar gais. Mae cofrestru yn sydyn ac yn syml. Ewch i: Register-to-vote-if-youre-living-in-Wales-Cymraeg.pdf ac argraffu ffurflen gofrestru.  Gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol ar 01352 702300.

Mae gennych tan 5pm ar ddydd Iau 14 Ebrill i gofrestru i bleidleisio. Hefyd mae gennych tan ddydd Mawrth 19 Ebrill i wneud cais am bleidlais drwy’r post a dydd Mawrth 26 Ebrill i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.

Dywedodd y Swyddog Canlyniadau, Neal Cockerton: 

“Mae’n bwysig eich bod yn edrych ar y wybodaeth a anfonwyd atoch, er mwyn i chi gymryd rhan yn yr etholiadau sydd ar y gorwel.  Ni ddylech gymryd yn ganiataol y byddwch yn gallu pleidleisio oherwydd eich bod wedi cofrestru ar gyfer pethau eraill megis Treth y Cyngor.”

Gallwch bleidleisio yn yr etholiadau Llywodraeth Leol os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio yn Sir y Fflint ac y byddwch yn 16 oed neu hyn ar ddydd Iau 5 Mai, ac yn: 

  • Ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig; 
  • Ddinesydd o'r Gymanwlad sydd â chaniatâd i aros yn y DU neu nad ydych angen caniatâd i aros yn y DU; neu 
  • Dinesydd gwlad yr Undeb Ewropeaidd, neu ddinesydd tramor cymwys sydd â chaniatâd i ddod neu i aros yn y DU, neu nad ydych angen caniatâd o’r fath.

Am ragor o wybodaeth, ewch i siryfflint.gov.uk/etholiadau.