Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Newid ffiniau a gwybodaeth arall ynglyn â’r etholiad
Published: 15/02/2022
Cofiwch gofrestru i gael bod yn rhan o etholiadau’r Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned sy’n digwydd ddydd Iau, 5 Mai.
Mae manylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor yma.
Os ydych wedi cofrestru, byddwch yn cael cerdyn pleidleisio gyda mwy o wybodaeth yn ystod mis Ebrill.
Ers yr etholiadau diwethaf, mae nifer y Cynghorwyr Sir i’w hethol yn Sir y Fflint wedi gostwng o 70 i 67. Mae rhai ffiniau wedi newid sy’n golygu efallai eich bod bellach mewn ward etholiadol wahanol (y ward y mae'r Cynghorwyr Sir yn ei chynrychioli). Dylech edrych ar y wybodaeth ar y cerdyn pleidleisio gan y gallai enwau’r ward fod wedi newid ac mewn rhai ardaloedd efallai y bydd eich gorsaf bleidleisio wedi newid hefyd.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan.
Mae Cynghorwyr yn cael eu hethol gan bobl yn eu cymuned i’w cynrychioli ac i wneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae bod yn Gynghorydd yn llawn gwobr, yn heriol ac yn bleserus a gallwch newid bywydau pobl er gwell.
Dywedodd Swyddog Canlyniadau Sir y Fflint, Neal Cockerton:
“Mae’n bwysig fod cynghorwyr yn cynrychioli holl safbwyntiau gwahanol eu cymuned – dyna pam rydym eisiau annog pobl o amrywiol gefndiroedd i ddod yn gynghorydd.”
Mae Llywodraeth Leol angen mwy o gynghorwyr sydd o dan 40, yn ferched, yn anabl, LGBTQ+ a du neu Asiaidd neu o grwpiau lleiafrifol eraill ac o ystod o gredoau, diwylliannau ac amgylchiadau personol. Mae bob cyngor wedi arwyddo addewidion Cyngor Amrywiol cyn yr etholiadau ac wedi ymrwymo i annog a chefnogi mwy o bobl amrywiol i ymgeisio mewn etholiadau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy, ewch i https://www.byddwchyngynghorydd.cymru/