Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfle o ran recriwtio

Published: 14/02/2022

Jobs_Welsh_AdobeStock_229293663.jpg

Ydych chi’n ystyried gyrfa yn y sector cludiant?

Mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chymru’n Gweithio, yn cynnal digwyddiad galw heibio yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore, Stryt Henblas, Wrecsam, LL13 8AE.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 8 Mawrth rhwng 10am a 1pm.

Dewch draw i siarad gyda darparwyr hyfforddiant lleol i ddarganfod beth sy’n gysylltiedig â hyn.  Fe fydd cyflogwyr wrth law i ddweud popeth wrthych am eu cwmnïau a’r rolau gwahanol sydd ganddynt.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:-

Cymunedau am Waith Sir y Fflint - Janiene Davies 07770632128 

Cymunedau am Waith Wrecsam - Julie Edwards 07584335447

Yr Adran Gwaith a Phensiynau: WREXHAM.EMPLOYER-PARTNERSHIPTEAM@DWP.GOV.UK