Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Plant lleol yn herio’r fyddin!

Published: 16/02/2022

Mae disgyblion Ysgol Sant Ethelwold yn Shotton wedi’u rhoi ar brawf gan y fyddin yn ddiweddar – ac roedden nhw wrth eu bodd!

Mae Forces Fitness, cwmni sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n gweithio’n agos gyda llawer o ysgolion a sefydliadau eraill, wedi treulio’r mis diwethaf yn cynnal eu rhaglen hyfforddiant yn yr ysgol. Mae’r holl sesiynau wedi’u cynnal gan aelodau neu gyn-aelodau o’r lluoedd arfog.

Cafodd disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5, a 6 eu herio’n feddyliol ac yn gorfforol, gan weithio ar wella gwytnwch a chymryd rhan mewn heriau adeiladu tîm a chyfathrebu.

Roedd y cyfle hwn yn bosibl diolch i gyllid grant gan Chwaraeon Cymru drwy eu cronfa Addysg y Tu Allan i’r Ystafell Ddosbarth. Nod y cyllid yma ydi rhoi cyfle i bob plentyn fanteisio ar weithgareddau corfforol y tu allan i’r diwrnod ysgol. Cysylltodd yr ysgol â Forces Fitness, a drefnodd sesiynau ar gyfer y disgyblion bob dydd Llun ar ôl ysgol. Yn ogystal â’r sesiynau hyn, cynhaliwyd sesiynau taekwondo a dawnsio stryd gan ddarparwyr eraill.

Meddai Paul Oliver, y Pennaeth:

“Rydym ni’n ddiolchgar iawn am y cyllid yma. Roedd sesiynau Forces Fitness yn llawn egni a chyffro ac roedd yr holl blant wedi gwirioni - cafodd bob un ohonynt fudd mawr o’r profiad.

“Roedd gweld rhai o’n disgyblion mwyaf distaw a swil yn dod allan o’u cregyn ac yn cymryd rhan yn yr heriau ymryson, llusgo teiars a’r gemau, ac yn magu hyder a theimlad o werth, yn amhrisiadwy.

“Roedd yn braf gweld gwên, brwdfrydedd, dyfalbarhad ac agwedd benderfynol y disgyblion a diolch i’r cyllid yma roedd modd i ni ddarparu’r cyfleodd hynny.”

Meddai Sean Molino BCA, Cyfarwyddwr Forces Fitness:

“Rydym ni’n falch iawn o gael darparu ein rhaglen llawn hwyl sy’n canolbwyntio ar iechyd, lles a magu gwytnwch disgyblion Ysgol Sant Ethelwold! Rydym ni’n gobeithio mai dyma ddechrau perthynas wych gydag ysgolion Sir y Fflint. Gorau po fwyaf o hwyl a chyffro y gallwn ni ei ddarparu i’n cenhedlaeth iau!

“Ein nod tymor hir ers y cychwyn cyntaf ydi gwella iechyd a lles cenedlaethau'r dyfodol ymhob rhan o Gymru. Rydym ni wrth ein bodd yn eu hysbrydoli gyda’n tîm o gyn-filwyr cymwys.”

Gyda sylwadau fel y rhai isod gan y cyfranogwyr, mae’n amlwg bod y rhaglen wedi bod yn llwyddiant ysgubol:

“Gawn ni wneud hyn bob dydd Gwener ar ôl ysgol os gwelwch yn dda? Roeddwn wrth fy modd!”

“Roedd hynny’n llawer o hwyl, diolch yn fawr i chi. Pump uchel Philip!!”

“Rydym ni’n cyfathrebu efo’n gilydd i geisio ennill y gemau, mi ges i gymaint o hwyl.”

“Mi wnes i fwynhau gwneud yr holl weithgareddau a hoffwn gael cyfle i’w gwneud nhw eto.”

“Mi wnes i ddysgu i beidio â rhoi yn y to os ydych chi’n methu."

St Ethelwolds (2 of 18)small.jpg    

 

St Ethelwolds (4 of 18)small.jpg

 

St Ethelwolds (9 of 18)small.jpg

 

St Ethelwolds (18 of 18)small.jpg