Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad Bwcle ynghylch gwelliannau i Brunswick Road

Published: 16/02/2022

Buckley.JPGMae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ddydd Gwener yma, 18 Chwefror 2022, yng Nghaffi Cyfle, Refurbs, Bwcle o 2pm tan 5pm. 

Hoffem roi bywyd newydd i’r parth cerddwyr ar Brunswick Road a gwella’r strydlun at ddibenion siopa a chymunedol. Rydym ni wedi defnyddio gwasanaethau Environmental Associates (datblygwyr dylunio) ac mi fyddan nhw wrth law ar y diwrnod. 

Mae arnom ni angen eich barn chi am ddau ddewis amgen ar gyfer gwella Brunswick Road, Bwcle. Mae un cynnig yn edrych ar ailgyflwyno traffig unffordd a gwneud gwelliannau posibl eraill; ac mae’r cynnig arall yn edrych ar wneud gwelliannau posibl gan gadw’r ffordd yn stryd i gerddwyr yn unig. 

Byddwn yn defnyddio’r adborth a gawn yn ystod yr ymgynghoriad i’n helpu ni ystyried yr hyn sydd ei angen yn lleol ac i nodi’r datrysiadau a ffefrir er budd Bwcle. Bydd y cynlluniau hefyd ar gael yn Llyfrgell Bwcle, yng Nghanolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ac ar ein gwefan yn: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Events/Buckley-Consultation.aspx. Gallwch gyflwyno’ch sylwadau drwy lenwi’r ffurflen adborth yn un o’r lleoliadau hyn. Os nad ydych chi’n gallu dod i’r ymgynghoriad anfonwch eich sylwadau mewn neges e-bost i regeneration@flintshire.gov.uk erbyn diwedd y dydd, dydd Gwener 25 Chwefror 2022.