Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/23

Published: 17/02/2022

Money Fotolia_40586732_XS[1].jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad ardrethi busnes 50% i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ar gyfer 2022-23, wedi’i gapio ar £110,000 fesul busnes ar draws Cymru.

Mae hyn yn ychwanegol at gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach presennol.

Mae 994 o fusnesau posibl yn Sir y Fflint y disgwylir iddynt gymhwyso fel rhan o’r pecyn ariannu £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd angen i bob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch lenwi ffurflen gais ar-lein er mwyn elwa o’r gostyngiad, gan gynnwys busnesau sydd wedi cymhwyso o’r blaen. 

Mae’r ffurflen gais ar-lein a manylion am y cynllun ar gael nawr ar www.siryfflint.gov.uk/ardrethibusnes 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor:

“Rwy’n hynod o falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch lleol.  Bydd y pecyn cefnogaeth hwn yn cynorthwyo busnesau yn y sector hwn am 12 mis arall yn enwedig wrth i lawer o fusnesau barhau i adfer o’r pandemig.”