Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trosglwyddo rhan o dir hen ysgol i’r gymuned

Published: 24/02/2022

Mae Cyngor Sir Y Fflint yn cynnig rhan o safle hen ysgol gynradd gymunedol Penyffordd ar Ffordd Caer i’r Cyngor Cymuned.

Mae trafodaethau wedi bod ar y gweill ers amser ac mae’r Cyngor yn bwriadu rhoi’r safle yn rhodd i’r Cyngor Cymuned.  Gobeithio y bydd rhan o’r safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai cymdeithasol gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru.  

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

 “Rwy’n falch ein bod wedi gallu gwneud y cynnig hwn i gymuned Penyffordd a dangos ein hymrwymiad i weithio gyda’r gymuned er budd holl breswylwyr lleol.”

Dywedodd aelodau ward lleol, y Cynghorydd Cindy Hinds a’r Cynghorydd Alasdair Ibboston:

 “Rydym yn falch ein bod wedi chwarae rôl i sicrhau bod y tir hwn ar gael i’n cymuned ac rydym wedi gweithio’n agos gyda Sir y Fflint i gael man gwyrdd newydd i’n pentref.  

 “Mae yna ddiffyg man gwyrdd cyhoeddus ym Mhenyffordd a bydd y cytundeb hwn yn helpu i ddatrys hynny.  Rydym hefyd yn croesawu’r ffaith y bydd yr ardal adeiledig yn cael ei defnyddio ar gyfer tai cymdeithasol.”