Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cau Pont Penarlâg dros dro ar 13 Rhagfyr
Published: 09/12/2016
Bydd Pont Penarlâg, dros Afon Dyfrdwy ger Shotton, ar gau i feicwyr a cherddwyr
ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol rhwng 9am a 3pm ddydd Mawrth 13
Rhagfyr.
Mae angen gosod preniau newydd ar y bont bwysig hon, sy’n cysylltu Llwybr
Arfordir Gogledd Cymru â Llwybr Rheilffordd Gwyrdd Caer ar Lwybr Beicio
Cenedlaethol 5, er mwyn i’w defnyddwyr fod yn ddiogel a chyfforddus.
Mae Sustrans Cymru wedi trefnu i’r gwaith ddigwydd y tu allan i amseroedd
teithio prysur i osgoi unrhyw anghyfleustra i’r mwyafrif o ddefnyddwyr y
llwybr. Mae modd croesi dros y Bont Las ger y Queensferry hefyd. Os ydych yn
cynllunio taith ar yr adeg hon, yna defnyddiwch fap
Sustrans(www.sustrans.org.uk/map) i drefnu llwybr gwahanol.