Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tai Cyngor newydd
Published: 09/12/2016
Agorodd y drysau’n ddiweddar i’r datblygiad tai cyngor newydd ar gyn safle
Ysgol Custom House Lane ar Ffordd yr Wyddgrug, Cei Connah gan roi i denantiaid
posib ac eraill oedd â diddordeb yn y datblygiad y cyfle i cael cip o amgylch y
safle.
Y datblygiad hwn o 12 o dai cyngor yw’r safle cyntaf i’w gwblhau fel rhan o
Raglen Tai Strategol ac Adfywio Cyngor Sir y Fflint (SHARP) a’r rhain yw’r tai
cyngor cyntaf i’w hadeiladu yng Nghymru ers dros 20 mlynedd. Mae’r tai bellach
wedi eu neilltuo i denantiaid ac o fewn yr wythnosau nesaf bydd yr holl dai yn
cael eu trosglwyddo ir cyngor gan ei bartner datblygu strategol Wates
Residential yn barod i’r tenantiaid symud i mewn. Mae Wates Residential wedi
gweithio’n agos gyda’r cyngor i sicrhau fod y tai wedi eu hadeiladu i safon
uchel o ran ansawdd gyda nodweddion syn fodern ac yn effeithlon o ran ynni er
mwyn cadw’r costau rhedeg ar lefel y gellir ei reoli.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint;
“Rwyf wrth fy modd gyda’r cynnydd gwych sydd wedi ei wneud ar y safle hwn ers
i’r gwaith ddechrau ym Mai 2016. Rwy’n falch iawn i gwrdd â rhai o’r tenantiaid
newydd wrth iddynt weld eu cartrefi am y tro cyntaf ac roeddwn mor falch o
glywed y tenantiaid newydd yn sôn am ‘bennod newydd yn eu bywydau’ a pha mor
gyffrous oeddent i fod yn symud i’r datblygiad Custom House.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge;
“Rwy’n falch iawn or datblygiad hwn a bod nifer o nodweddion wedi eu rhoi yn
y cynllun er mwyn cofio adeilad yr ysgol oedd ar y safle cyn hynny ac a oedd yn
ganolog ir gymuned leol. Dysgais hefyd fod un o’r tenantiaid newydd yn
ddisgybl yn hen Ysgol Custom House Lane ac yn teimlo’n gyffrous iawn o gael
symud i’w ty cyngor newydd.
Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential:
“Mae sawl mis o waith caled ac ymroddiad wedi ei roi i raglen fuddsoddi tai
uchelgeisiol Sir y Fflint ac mae gweld y cynlluniau’n dod yn fyw yn garreg
filltir gyffrous i bawb sy’n rhan o hyn, gan gynnwys y preswylwyr a fydd yn
mwynhau’r cartrefi gwych yma.
“Mae cam cyntaf SHARP wedi bod yn llwyddiant mawr, yn rhannol o ganlyniad i’r
cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant y mae wedi ei greu ar gyfer pobl leol.
Rydym yn edrych ymlaen i barhau i weithio gyda Chyngor Sir y Fflint gan
ailadrodd y llwyddiant yr ydym wedi ei gyflawni wrth i’r rhaglen ddatblygu tai
barhau yn 2017.