Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
OBE yn rhestr Anrhydeddaur Flwyddyn Newydd
Published: 31/12/2016
Mae pennaeth ysgol uwchradd Sir y Fflint, sydd wedi bod yn gweithio yn
nhrefgordd Bwcle ers 2006, wedi cael OBE yn rhestr Anrhydeddaur Flwyddyn
Newydd.
Mae Mrs Rosemary Jones, pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed, wedi cael ei chydnabod
am ei chyfraniad i addysg. Mae wedi arwain tîm yr ysgol o athrawon a staff
cefnogi i ddatblygu Cymuned Ddysgu Eithriadol, lle mae cyflawniad a lles yn
flaenoriaethau. Barnwyd safonau yn yr ysgol i fod yn Ardderchog gan Estyn yn
2015 ac yn 2016 enillodd yr ysgol Wobr Ansawdd Cymru.
Mae gan Rosemary ugain mlynedd o brofiad arwain ysgol. Dechreuodd ei gyrfa
addysgu yn y 1970au yn Llundain. Ar ôl symud i Ddyffryn Clwyd yn 1984, mae wedi
gweithio yn Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Glan Clwyd ac yn ystod y deng mlynedd
diwethaf fel pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed.
Meddai Rosemary Jones:
“Cefais fy synnu ac roeddwn yn falch o fod wedi cael fy nghyflwyno ar gyfer
anrhydedd hwn, syn adlewyrchu cyfraniad tîm Ysgol Uwchradd Elfed wrth ddarparu
cyfleoedd dysgu rhagorol ar gyfer pobl ifanc Bwcle a thu hwnt. Maen fraint i
weithio gyda phobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol addysgol ar
draws Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at ddatblygiad pellach addysg yn
y wlad.